Moel Ysgyfarnogod a Bryn Cader Faner 15 Mehefin
Ar fore braf o haf ... Wel, nag oedd yn anffodus, ond serch hynny cychwynnodd deg ohonom yn ein ceir o Glan y Wern ger Talsarnau i fyny heibio Maes y Neuadd bron cyn belled â ffermdy Moel y Geifr.
Cerdded wedyn ar hyd y ffordd rhwng Llyn Eiddew Mawr a Llyn Eiddew Bach ac ymlaen ar hyd hen ffordd y gwaith mango (manganîs, nid ffrwythau!) cyn belled â Llyn Du. Er bod Jooohn yn addo y bydda hi'n codi (gan fod Rhian Haf wedi deud!), i lawr ddaeth y glaw a'r niwl ond er hynny llwyddodd pawb i gyrraedd copa Moel Ysgyfarnogod a chael cip ar Lyn Traws a Moel Penolau wrth i'r niwl glirio bob hyn a hyn. Anelu'n ôl tua'r gorllewin wedyn, i lawr i 'lwyfan Bryn Terfel', amffitheatr naturiol uwchben Llyn Bedol (Llyn Dywarchen ar y map), yna drwy rhan arall o'r gwaith mango, cyn galw heibio heneb drawiadol Bryn Cader Faner. Oddi yma, dilyn rhan o hen ffordd Yr Oes Efydd yn ôl nes ymuno â'n llwybr gwreiddiol a chau'r cylch.
Diolch i Iona, Elisabeth, Jooohn, John Arthur, y ddwy Rhiannon, Anet, Gwen R a Bert am eu cwmni difyr.
Cafwyd haul braf, do ... ar ddiwedd y daith!
Hanes gan Haf Meredydd
Lluniau gan Haf Meredydd ar Fflickr