HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Glyderau 15 Hydref


Deg o gerddwyr a gychwynnodd ar fore braf i gerdded y Glyderau er fod Cymru'n chwarae yn erbyn Ffrainc yn rownd gyn-derfynol Cwpan Rygbi'r Byd: Anet; Elen; Gwyn; Huw; Janet; Iolo (Llanfyllin); Richard; Siân; Sioned; Sw; Tegwen.

Pawb yn chwysu chwartia' yn yr haul cynnes wrth ymlafnio i fyny crib gogleddol y Garn cyn oedi ar y copa i gael paned a mwynhau'r golygfeydd. Ar ôl disgyn at Lyn y Cŵn, dringo eto i gopa'r Glyder Fawr lle cafwyd cinio a sgwrs ddifyr wrth i ambell un sôn am ddillad mynydda llachar Huw Myrddin. Ar y gair, pwy ymddangosodd ond Huw ei hun; roedd o wedi bod yn gwylio'r gêm mewn tafarn ym Methesda, dilyn ôl troed y criw a'n dal ni fel yr oedden ni'n gorffen ein cinio. Roedden ni'n griw o 11.

Croesi Bwlch y ddwy Glyder, heibio i Gastell y Gwynt cyn tynnu lluniau ar Garreg y Gwyliwr. Lawr at Llyn Caseg Fraith ac ar hyd y llwybr i Fwlch Tryfan lle bu Richard, Huw ac Elen yn disgwyl am y gweddill heb sylweddoli eu bod wedi pasio dros gamfa arall ym mhen draw y Bwlch ac yn disgwyl ger Llyn Bochlwyd!

Taith ardderchog ar un o ddyddiau brafia'r flwyddyn.

Adroddiad gan Richard

Lluniau gan Anet a Richard ar Fflickr