Afon Dwyfor a'r arfodir cyfagos 17 Awst
Llwyddwyd i wasgu'r pymtheg ohonom i'r bws yng Nghricieth ac yr oedd dipyn mwy o le arni ar ôl inni fynd oddi arni i ddechrau'n taith ger Dolbenmaen.
Ar ôl cerdded mymryn ar hyd y ffordd croesom afon Dwyfor i gyfeiriad Ystumcegid a cherdded y llwybr gwyrdd nes cyrraedd un o'r pontydd troed sy'n croesir afon. Lle iawn am banad a'r tywydd yn ffafriol iawn. Cerddom ymlaen ar hyd ochor yr afon heibio Tyddyn cethin a phont Rhyd y Benllig a thrwy'r coed yn dal i gerdded ar hyd ochor yr afon. Arhosom i fwyta'n cinio ger pwll o'r enw Noddlyn (mae enw i bron bob pwll sydd ar yr afon).
Ymlaen i Lanystumdwy a chan fod o leiaf hanner awr ers inni fwyta'n cinio 'roedd rhaid aros yn y caffi am banad. Heibio i fferm Aberkin at geg yr afon a dilyn llwybr yr arfordir i Griccieth. Cyfle i gael hufen ia yn siop Cadwaladr cyn inni wahanu tua thri'r pnawn.
Dyma enwau'r aelodau a fentrodd ar y daith anturus yma!
John Parry, Gwlym Jacson, Arfon Jones, Gwen Arron, Nia Wynn, Bert Roberts, Annet, John Arthur Eifion Jones, Gwen Richards Ken a Rhian Robinson, Twm Roberts, Haf Meredydd a fi Gwyn Williams
Adroddiad gan Gwyn
Lluniau gan Gwyn a Haf ar Fflickr