Gwaith Rhaff ger Capel Curig 18 Medi
Daeth 9 aelod ynghyd ar fore cawodlyd yng Nghapel Curig i wneud gwaith rhaff a diogelu cerddwyr ar dir serth. Cafwyd trafodaeth a braslun o'r amrywiol ddulliau dros banad yn y caffi cyn mynd i Ddyffryn Mymbyr i chwarae ar y man glogwyni. Bu pawb yn brysur weddill y dydd yn gosod rhaffau, gollwng, cael eu gollwng, paratoi angor, ayb. Gobeithio fod pawb wedi elwa ac y bydd modd cael diwrnod arall yn y dyfodol.
Diolch i bawb sef: Anita, Myfyr, Sioned, Raymond (Sir Benfro), Arwel, Ray, Marion, Janet a Iolo (Llanfyllin).
Adroddiad gan Myfyr
Lluniau gan Myfyr (1-7) a Sioned (8-13) ar Fflickr