HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Mynydd Llantysilio 19 Chwefror


Cychwynnodd pymtheg o bentref Bryneglwys am ddeg o’r gloch ar fore oer, niwlog ond sych - Anet, Arwyn, Gwyn o Chwilog, Gwilym, Gwen Aaron, Dilys ac Aneurin, Rhoda, Eirlys ac Iolyn, Huw Myrddin, Iona, Gwyn o Lanrwst, John Arthur, Gwen o Ruthun. Ymhen yr awr roedd pawb wedi cyrraedd copa Moel Morfudd er mwyn sefyll mewn cwmwl trwchus. Ar ein llaw dde roedd Dyffryn y Ddyfrdwy a mynyddoedd y Berwyn y tu hwnt, ac ar ein llaw chwith roedd Dyffryn Iâl - i gyd yn hardd dros ben ond yn hollol anweledig.

Ymlaen wedyn a thros Foel y Gaer lle roedd arwyddion bod archeolegwyr wrthi’n cloddio am olion yr oes o’r blaen. Disgyn i’r bwlch ymhen ychydig, croesi ‘Ffordd y Rhufeiniaid’ ac i fyny llethr go serth i ben Moel Gamelin lle roedd dyn a bachgen; y bachgen wedi cael ei ddymuniad o gael clywed rhywun yn siarad y Gymraeg, ond heb ddymuno rhai mor swnllyd efallai.

O ben Moel Gamelin roedd golygfeydd gwych tua Bryniau Clwyd, Dyffryn Llangollen a Chreigiau’r Eglwyseg - y cwbl yn guddiedig yn y caddug. Y Foel Faen oedd y bryn nesaf ac wedyn i lawr yn union am ffordd fawr Bwlch yr Oernant lle roedd y niwl mor dew anodd oedd dod o hyd i’rCaffi Ponderosa lle cawsom ein paneidiau. Rhedai'r llwybr yn ôl ar odre’r moelydd, gan ddilyn ffordd y chwarel ac yna dros y caeau i’r man cychwyn. Erbyn hyn roedd yr awyr yn las a’r haul wedi ymddangos.

Diolch i bawb am ddod er gwaethaf y tywydd.

Adroddiad gan Gwen Evans

Lluniau gan Gwen, Gwyn ag Anet ar Fflickr