HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Llanarmon yn Ial a Bryn Alun 27 Awst


Daeth chwech o fynyddwyr heddiw: Gwilym, Huw, Iona, John Arthur, Gwyn W. a Gwen E. gan gychwyn ger fferm Plymog, Llanferres.

Moel Fenlli oedd y copa cyntaf (1,676tr ac yn 'Marilyn'?), yna dilyn llwybr Clawdd Offa tua'r de at droed Moel Gyw (1,532tr) lle bu penderfyniad unfrydol i beidio'i dringo am fod y cwmwl oedd wedi bod yn ein herlid o'r gogledd wedi'n dal. Mynd a dod wnaeth y cawodydd wedyn a bu ambell lygedyn o haul. Parhau ar Lwybr Clawdd Offa i gyfeiriad Llyn Gweryd, ar i lawr i bentref Llanarmon-yn-Iâl, at ymyl hen chwarel Pistyll Gwyn ac ar i fyny wedyn i balmant calchfaen Bryn Alun lle roedd modd gweld yr holl daith gron o'r copa (1,322tr). Ymhen dim roedd pob un yn ôl yn ddiogel ar y ffordd fawr wrth Plymog.

Taith tuag un filltir ar ddeg.

Adroddiad gan Gwen Evans

Lluniau gan Gwen Evans ar Fflickr