HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Croesor i Benmachno 28 Mai


Eirwen ac Alun; Gareth Cefncoed; Elizabeth, Iona, Raymond, Gwyn ac Eifion o gyffiniau Llanrwst; Arwel Roberts; Marion Hughes; Dwynwen Jones; Manon Davies; Edward Griffiths; George, Elen ac Iolo o ardal Caernarfon a Gareth Williams, Prys Ellis, Sian Griffiths, Gareth Wyn ac Eryl oedd yr un-ar-hugain ddaliodd y bws mini (a'i dal i fyny'n hwyr yn achos un, ynde Raymond?) o Benmachno i Groesor lle'r oedd Ray Baptist yn aros amdanom.

Cychwyn am y Cnicht tan gymylau duon a dal i fyny â chriw o rhyw bymtheg o Brifysgol Rhydychen a chanfod bod un ohonynt wedi dysgu Cymraeg oddi ar y wê i safon arbennig o dda a Marion yn manteisio ar y cyfle i ddysgu cyfarchion sylfaenol i nifer o'r gweddill! Er gwaethaf y cymylau bygythiol, rhyw hanner awr o law a gafwyd ar y ffordd i'r copa cyntaf ac yn ffodus iawn roedd y gwynt cryf i'n cefnau am y rhan fwyaf o'r dydd. Wedi i Alwen a Ceri ymddangos o'r niwl rhywle tua Llyn yr Adar i ymuno am ran o'r daith, gwellodd y tywydd wrth groesi Moel Druman a'r Allt Fawr a chafwyd cyfle weddill y dydd i werthfawrogi golygfeydd o Eryri o gyfeiriadau gwahanol i'r arfer. Ymunodd Chris â'r cwmni wrth groesi'r ffordd fawr ar ben Bwlch Gorddinan i ymlafnio fyny llechweddau digon serth i gopaon Moel Farlwyd a Moel Penamnen ac yna croesi'r mawndir i Ro-wen a'r Ro-lwyd ac i Benmachno. Cwblhawyd y daith o rhyw 16 milltir mewn ychydig dros wyth awr mewn da bryd am lasiad yn y Tŷ Ucha'. Gobeithio bod pawb wedi mwynhau - hyd yn oed y grug a'r coed llys di-lwybr ar y ffordd lawr o Ro-lwyd!

O.N. Nodyn o ddiolch gan y dysgwr o Rydychen – Hi, dyma neges fer i ddiolch eich aelodau a welais i ar Gnicht ddoe am y cyfle i ymarfer fy Nghymraeg gyda nhw - gan fy mod i'n byw yn Lloegr, does dim gen i lawer o siawns i siarad Cymraeg yn arferol, ac mae'n braf cwrdd a phobl sy'n amyneddgar gyda dysgwyr.
Alan

 

Adroddiad gan Eryl Owain

Lluniau gan Alun Hughes ar Fflickr