Nant Gwynant 28 Rhagfyr
Daeth 15 ohonom ynghyd ar ôl y Nadolig sef John Arthur, Gwyn, Gwyn Chwilog, Anet, Iolo, Gerallt, Haf, John Parry, Carys, Dafydd Meurig, Geraint, Meira, Twm, Beti a Delyth. Roedd y tywydd yn sych wrth i ni gerdded o gwmpas Llyn Dinas. Aethom dros y gamfa ac i fyny at fwthyn Hafod Owen, a chawsom baned gerllaw. Yma y daeth y dringwr John Menlove Edwards i fyw tua 1941.
Roedd digon o fwd ar y llwybr wedyn cyn cyrraedd Lôn Blaen Nantmor. Gwelsom yr hen olwyn ddŵr ger Pont yr Injan. I fyny â ni ar hyd llwybr Watkin, heibio'r nant fyrlymus at Garreg Gladstone, a chael cinio yno. Er bod y gwynt wedi codi ymddangosodd yr haul wrth i ni gerdded i lawr y llwybr a gwelsom ddau alpaca yng nghae Hafod y Llan. Ymlaen â ni heibio Llyndy Isaf ac o gwmpas y llyn.
Adroddiad Delyth Evans
Pencampweithiau ffotograffig gan Pico (h.y. Gerallt) ar Fflickr CMC
Lluniau ychwanegol, gan Dafydd Meurig, ar gael YMA