HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Elidir, Foel Goch, Y Garn, Llyn y Cwn 29 Ionawr


Mae'n siwr bod colli aelod o'r grwp ar y mynydd yn esgeulus iawn ar ran yr arweinydd ond mae colli aelod o'r grwp yn y maes parcio ar ddechrau'r daith yn du hwnt o esgeulus! Felly ymddiheuriadau i Jeremy a diolch i Dylan Huw am redeg ar ei ôl yn ei esgidiau trymion. Diwrnod gaeafol oer ond heulog.

Unarhugain yn mentro allan.Dringo o'r Nant i fyny Cwm Cneifio, heibio Llyn y Cwn ac i gopa'r Garn i gael cinio.Yna ymlaen dros Foel Goch at Garnedd y Filiast cyn dychwelyd i'r Nant dros yr Elidir. Cwmni da, golygfeydd godidog a pheint haeddiannol i dorri syched ar y diwedd.

Diolch i bawb.

Adroddiad a lluniau gan Arwel

Lluniau gan Arwel ar Fflickr