HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Penwythnos Trefin 22-24 Medi


Dringo ar glogwyni Porth Clais

Daeth Roedd yn bwrw amser brecwast ond buan cliriodd y glaw ac fe gafwydd diwrnod difyr yn dringo ar glogwyni Porth Clais. Amryw o ddringfeydd difyr yn cynnwys clasuron fel Red Wall S 4a a Dream Boat Annie E1 5a.
Diolch i bawb a fentrodd ar y graig. Alwen, Kate, Marion, Ray, Rhys a Sian.

Adroddiad gan Arwel

Lluniau gan Arwel ar Fflickr

 

Taith Dydd Sadwrn
Ar fore Sadwrn, roedd rhyw dri deg pump o aelodau yn aros yn Nhrefin am fws y “Strumble Shuttle”. Gyda ni oll, ac ychydig o deithwyr eraill, lle i sefyll yn unig oedd ar y bws, a rhwng hyn a trafferthion gyda’r peiriant, roedd yn daith go gofiadwy. Roedd ychydig o aelodau ychwanegol yn aros amdanym yng Ngarn Fawr, i wneud criw o bedwar deg i gerdded yn ol ar hyd llwybr yr arfordir i Drefin. Fe gododd y cwmwl i wneud diwrnod cynnes a heulog . Cinio yn Aberbach, a phaned yn Abercastell cyn galw yn y Felin ac yn ol i fyny’r hewl i’r Hostel

Taith Dydd Sul
Pump ar hugain o aelodau yn teithio i Borthclais am gylchdaith i fyny heibio Ynys Dew i Borth Selau ac yn ol ar hyd y lonydd i’r ceir. Fel y ddoe, digon o forlio a’u cywion ar y traethau anhysbell o dan y clogwyni.

Pob diolch i Chris a Sue yn hostel Trefin am drefnu lle mor gyfforddus i ni ac i staff y “Ship” am fod mor groesawgar.

Adriddiad gan Raymond

Lluniau gan Arwel ar Fflickr