Yr Wyddfa 1 Ionawr
Pump yn unig a fentrodd i Ben y Pass ar fore oer, gwyntog a glawog - Geraint a Gwyn, Dylan Huw, Charli a minnau - y maes parcio'n wacach nag arfer - dim syndod!
Dilyn y PYG i Fwlch Moch - gwyntog iawn yno - Ger a Dylan Huw yn mentro'r grib a ninnau'n rhoi perswad ar griw o Fwslemiad i'n dilyn ar hyd y PYG.
Y gwynt a'r glaw yn gwaethygu fel y dringem a sawl parti i ymweld yn troi'n ol ac yn ein rhybuddio ei bod yn waeth byth uwchben Bwlch Glas - mi roedd hi! Olion hen eira o dan y Bwlch.
I'r copa a'i chael hi'n anodd iawn cael lle cysgodol i gael cinio. Lawr reit sydyn a Ger a Dyl yn dod i'r fei o'r niwl o gyfeiriad Garnedd Ugain - y grib reit ddifyr!
Y tywydd yn gwella wrth i ni ddilyn Llwybr y Mwynwyr i lawr at Glaslyn a'r glaw wedi peidio erbyn i ni gyrraedd yn ol i'r maes parcio gyda Ger a Dyl chydig ar ein holau.
Y mwslimiaid hefyd wedi cyrraedd i lawr yn saff ac wedi cael defnydd un o stafelloedd y wardeiniaid i weddio a diolch.
Adroddiad gan Maldwyn
Lluniau gan Gwyn ar FLICKR