HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cader Idris 1 Rhagfyr

Wel, fel arweinydd fues i’n mwydro fy mhen, trwy’r dydd Gwener, gan fod y Berwyn i’w weld yn wyn iawn, oedd angen caib a chramponau ai beidio. Hel chydig o gramponau sbâr oedd orau. Tua 9 o’r gloch nos Wener dyma Warden caredig o’r Parc yn ffonio i ddeud bod Y Gader yn glir. Diolch Myfyr. Bu bron imi beidio cyrraedd Minffordd gan fod trwch o rew ar y ffordd gul drosodd o Ddyffryn Ceiriog i’r A5, “grass verge” safiodd y dydd wrth drio osgoi rhyw gradur yn sbinio’i ffordd i fyny’r “Ladder”. Allt serth ger Feifod, mae’r enw’n deud y cwbwl.

Erbyn cyrraedd Minfordd roedd 20 o gyd-gerddwyr yno yn barod i fynd, gan gynnwys Sian. I fyny trwy’r coed ac ail ymgynull cyn croesi’r bont dros Nant Cader i ddringo’r llethr am Mynydd Moel. Alun camera yn deud fod Buddhistiad da wastad yn mynd yr un ffordd a’r cloc, a bod yr hen, hen Buddhistiaid yn mynd ffordd arall. Penbleth eto, crampons neu dim crampons trwy’r dydd ddoe, a rwan, efo’r cloc neu yn erbyn y cloc. Penderfynu gan fod rhan fwyaf ohonom yn Fethodistiad, yn Fedyddwyr neu ddim byd, fasa’n ddigon saff mynd yn erbyn y cloc! Cychwyn yn serth iawn cyn cael paned wrth y wal tua hanner ffordd i fyny Mynydd Moel, ac yna ymlaen i’r copa cyntaf. Digon oer yn y fan honno a dim llawer o olygfa, ond y diwrnod yn gwella’n ara’ deg. Ar hyd y gefnen lydan i Ben y Gader, a’r Fawddach ‘di dod i’r golwg, a haul braf i’w weld yn Llanelltyd, a copaon Eryri yn wyn yn y pellter.

Braidd yn oer oedd hi, yn bwyta brechdannau y tu allan i’r cwt, y rhai cyflym a chyfrwys di rasio i’r cwt heb fynd i’r copa, er mwyn cael y seti gorau. ‘Dan ni’n gwybod pwy ‘dach chi a mi gawn ni’n cyfle rhywbryd eto, y rhai oedd yn ddi-lety. Fel bu lwc roedd Myfyr di ffeindio brwsh llawr yn y cwt, a chwarae teg i Leusa a Sian am wneud y gwaith glanhau heb gwyno dim.

I lawr a ni am ‘chydig i Graig Cau, a’r tywydd ‘di gwella’n arw. I fyny eto heibio Craig Cwm Amarch, paned arall, ac i lawr yn hamddenol ar hyd Llwybr Minffordd at y ceir. Bu rhaid i rai ohonom fynd ar hast i’r Llwynogod Blîn i gefnogi Cymry yn erbyn y Wallabies, ond ofer fu’r ymdrech hon, a newyddion gwaeth fyth ar ôl cyrraedd adref, Lloegr ‘di curo’r Crysau Duon! (mae'n debyg fod rhyw spei Saesnig wedi sicrhau fod y rhan fwya o'r Crysau Duon wedi dal rhyw feirws ychydig ddyddia ynghynt! - Gol.)

Diolch i bawb fuodd ar y daith am eu cwmni difyr.


Adroddiad gan Gareth Roberts


Lluniau gan Iolo (ap) ag Alun Hughes ar FLICKR