Y Glyderau 3 Tachwedd
Er gwaethaf darogan cawodydd trymion o law ac eira, ymunodd 19 o gerddwyr ar y daith gan gynnwys Anita Myfanwy a Gethin (aelodau newydd) a Rhodri, Dafydd a Gwyn.
Roedd y llwybr, yng nghysgod Bristli, yn edrych yn dra bygythiol dan drwch o eira ond i fyny â ni gan oedi am ginio cynnar wrth Garreg y Gwyliwr. Roedd cyfle i’r ifainc yn ein plith – a Sioned ac Iolo - ddringo’r garreg a chael tynnu’u lluniau.
Roedd y golygfeydd o’r Wyddfa a’i chribau’n odidog yn yr eira o gopa’r Glyder Fawr cyn i ni ddisgyn yn serth i lannau Llyn y Cŵn lle bu ffarwelio â thri o’r hogia ifanc.
Esgyn llethr ddwyreiniol y Garn gyda’r eira’n lluwchio mewn gwyntoedd cryfion cyn cael hoe fach arall ar gopa ein trydydd mynydd cyn dilyn y grib ogledd-ddwyreiniol yn ein holau i Ogwen a chyrraedd y ceir cyn 4 a chyn i’r glaw, cenllysg a’r eira ein cyrraedd.
Diolch i bawb am eu cwmni difyr.
Adroddiad gan Richard (Arweinydd)
Lluniau gan Sioned, Anet a Dafydd Meurig ar FLICKR
Rhagor o luniau eto ar Flickr Norman Preis