HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moel Siabod a Dolwyddelan 4 Chwefror

Naw ohonom a fentrodd gychwyn o Ddolwyddelan [o ia, a naw yn gorffen!]. Ar ol wythnos o awyr las a haul, diflannodd Moel Siabod o dan y cymylau wrth i'r wawr dorri fore Sadwrn. Ond cawsom y mynydd i gyd [bron] i ni ein hunain – dim yn ddigwyddiad cyffredin iawn ar Siabod. Roedd yr eira, a'r rhew-wynt yn ymarfer da i'r rhai ohonom sydd yn mynd am yr Alban Sadwrn nesaf.
Sori, dim lluniau – mae fy nghamera
wedi torri.

Adroddiad gan Raymond