HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Yr Wyddfa 7 Ionawr

Tri Gareth (Everett, Wyn a Williams), Prys Ellis, Morfudd ac Eryl gychwynnodd i fyny'r Wyddfa gan ddilyn y llwybr tuag at Fwlch Cwm Llan cyn troi ger y chwarel i gopa'r Aran.  Gorfu i Morfudd droi'n ôl wedyn o'r bwlch yn drwm dan anwyd.  Taith di-drafferth ond gwynt oer a chryf tua'r copa. 

Synnu at y sbwriel o gwmpas y caffi.  I lawr llwybr Cwellyn ond troi ar draws y gweundir (a gwas ffarm Bron-fedw yn dangos cynllun trydan dŵr i ni) i ddilyn y llwybr trwy chwarel Glanrafon yn ôl i'r pentref.

Yn anffodus, doedd dim ffotograffwyr yn ein plith!

Adroddiad gan Eryl Owain.