HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Arfordir Llŷn 7 Gorffennaf

Er gwaethaf effaith y glaw mawr y diwrnod cynt a chyfyngiadau traffig yn sgil Gŵyl Wakestock, ymgynullodd 9 o aelodau hefo Anet a minna ar fore dydd Sadwrn heulog ger Ysgol Sarn Bach sef Haf, Alun (Caernarfon), Eirlys, Iolyn, Jeremy, Gwyn (Chwilog), Gwyn (Llanrwst), Alun (Caergybi) ac Eirwen.

Cychwyn am Borth Fawr a phasio olion niferus o’r diwydiant cloddio plwm (diolch i Anet am y gwaith ymchwil ar yr hanes) ar y ffordd. Wedi dod i ben Porth Mawr dilyn darn newydd o lwybr yr arfordir, sydd wedi ei agor eleni, o gwmpas Trwyn yr Wylfa. Mwynhau paned yn edrych ar yr olygfa o Ynysoedd Tudwal o’n blaenau a phanorama eang o fynyddoedd yn ymestyn o’r Wyddfa i lawr at Gader Idris ac ymhell tu hwnt yn y cefndir. Ymlaen at Borth Ceiriad a gweld cywion swnllyd y Frân Goesgoch yn cael eu bwydo gan eu rhieni ar y llethr.

Cyfnod byr ar y ffordd wedyn cyn ail ymuno a llwybr yr arfordir ger Muriau. Saib i gael cinio ger Trwyn Llech-y-doll lle cawsom ein difyrru gan ddwy hugan wen yn plymio i'r môr a Jeremy yn gweld posibiliadau dringo ar y clogwyni serth o’n blaenau. Wrth gwmpasu Trwyn Cilan cael ein golwg gyntaf o Enlli a phenrhynau pendraw Llyn ar draws Porth Neigwl. I lawr i Borth Neigwl cyn cerdded yn ôl trwy'r caeau i Sarn Bach.

Roeddem yn ffodus iawn o gael diwrnod braf a chlir gyda’r haul yn tywynu arnom trwy’r dydd (digwyddiad eithaf anghyffredin yr haf ‘ma!) a gallu mwynhau golygfeydd godidog o Ben Llŷn a’i hynysoedd ac o fynyddoedd Eryri a thu hwnt dros Fae Ceredigion.

Adroddiad gan Iolo Roberts

lluniau gan Haf ar FLICKR


Y gromlech uwchben Llech y Doll