HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Crib Lem, Cwm Llafar 8 Medi

Roedd 23 wedi cyfarfod yn y maes parcio, sef Gareth, Efret, Bert, Gwen Aron, Anet, Morfudd, Raymond, Iolyn, Gwil, Elen, Dafydd L, Gareth Hughes, Sioned, Eirwen, Anna, Elin, Marged, Llio, Greta, Catrin, Mari, Gwyn, Gareth Rynys a Gareth Wyn, a da oedd gweld bod 9 o’r rhestr dan 25 oed.

Oherwydd fod gymaint wedi troi allan penderfynwyd cerdded i fyny drwy Gerlan i'’r man cychwyn a sylweddolwyd y byddem yn dod heibio y dafarn ar y ffordd ‘nol!

Cychwynwyd i fyny am Cwm Llafar heibio'’r gwaith dwr a'’r tywydd yn braf ond niwl trwchus ar hyd y cwm. Yn ffodus erbyn cyrraedd pen y cwm roedd y niwl wedi clirio i ddatgelu y grib yn ei gogoniant, ond cyn mynd ymlaen, pendefynodd y criw gael paned a diod.

Aethom i fyny ochr y grib i fewn i Cwm Glas Bach ond ar ôl ychydig gwyro i’'r chwith i ymuno a'’r grib. Y rhan nesaf oedd dringo gyda’'r bobl ifanc a oedd yn amlwg yn mwynhau y profiad o ddilyn Gareth i fyny a ninnau y bobl hyn yn eu dilyn. Erbyn cyrraedd diwedd y scrambl, cafwyd amser i gael cinio cyn cyrraedd Carnedd Dafydd.

Ymlaen wedyn i'’r copa, lle tynnwyd llun o'’r criw ifanc i roi ar wefan y Clwb. Roedd y tywydd mor braf a'r golygfeydd yn odidog i bob cyfeiriad. ‘Doedd dim llawer o frys gan neb i symud yn gyflym iawn, ond mynd oedd rhaid tua Bwlch Cyfryw y Drum, Carnedd Llywelyn a draw i’'r Elen. Daethom lawr o'’ r Elen a chael seibiant yn yr haul ar Foel Ganol cyn cychwyn lawr i'’r chwith i ymdrechu ffendio lle hawdd i groesi'’r afon ac yna dilyn y llwybr yn ôl trwy Gerlan am ddiod derbyniol yn y dafarn!

Hawdd oedd gweld pam roddwyd tair seren ar ei chyfer. Cafwyd diwrnod da o fynydda gyda chwmni hwyliog.

Adroddiad gan Bryn.

Lluniau gan Anet ar FLICKR