HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Llangwm 9 Mai

Pedwar ar ddeg yn cyrraedd pentref Llangwm ar fore heulog, cynnes a’r awyr yn las: Ann, Gareth, Gwen A, Gwen R, Gwyn Chwilog, Haf, John Arthur, John Port, John Williams, Meira, Rhys, Dewi Roberts, Raymond a Gwen E yn arwain.

Heibio Bron Llan ac i fyny tua’r Orddu lle dechreuodd y glaw.  I lawr i’r bwlch ac yna i fyny tua’r piler ar Foel Goch.  Cael ychydig o gip ar yr olygfa ond anodd oedd gweld y pump o lynnoedd sy’n amlwg ar ddiwrnod clir.  Y glaw yn parhau.  Cinio wrth y Garnedd Faw, cyn disgyn i’r cwm wrth y Greigwen, ymlaen trwy fuarth Aeddren Isaf lle’r oedd y ffermwr yn cyfaddef mai dyma’i brofiad cyntaf erioed o gerddwr ag ymbarél (eiddo Haf).  Mwy o law.

Dros yr afon a chael cyd-gerdded â Bethan (sy’n byw yn ymyl) oedd wedi’n clywed ni’n dod ers meitin.  Roedd clychau’r gog yn llwyn Garthmeilio yn eu blodau, a’r llwyni rhododendron amryliw hefyd, y Foel Goch i’w gweld mewn niwl tew erbyn hyn.  Ar ôl cyrraedd Llangwm aeth y mwyafrif i’r Country Cooks am baned, a theisen, a sychu a daeth Margiad, sy’n aelod o CMC, atom am sgwrs.  Diolch i bawb am ddŵad.  Er gwaethaf y glaw mi fwynheais i’r cwmni’n arw.

Adroddiad Gwen Evans

Lluniau gan Haf Meredydd ar FLICKR

Llun o'r gorsfrwynen ddu (Schoenus nigricans) hefyd gan Gwen yn y casgliad