Llanddulas a'r Cylch 11 Ionawr
Roedd y tywydd yn wlyb i ddechrau ond yn clirio i fod yn reit dda am weddill y daith. Aethon ni o'r traeth i fyny heibio'r chwarel yn Llysfaen. Cawson ni baned ger Craig y Forwyn cyn dilyn Llwybr Gogledd Cymru i lawr i gwrdd â'r ffordd gul heibio Felin Cwymp. O fanna cymeron ni'r llwybr y tu ôl i Ryd y Foel i ymuno â'r trac sy'n arwain i fyny at gopa Pen y Corddyn Mawr. Roedd olion yr hen gaer i'w gweld ar y ffordd i lawr yn ôl at bentref Rhyd y Foel. O fanna aethon ni i fyny at Ben yr Ogof uwchben Llanddulas ac i Dŵr y Castell. Penderfynon ni fynd i gael cipolwg ar Gastell Gwrych cyn dilyn y llwybr heibio'r ogofeydd yn ôl at y traeth.
Adroddiad Mary Lloyd
Lluniau gan Anet
ar FLICKR