HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Mynydd Conwy 11 Gorffennaf

Daeth 8 ohonom (Geraint Percy, Meira, Haf, Anet, Rhys Llwyd, John Wms a Gareth a Margaret Tilsley) i Lanfairfechan i ddal y bws toc wedi 10 y bore a mynd i gyrion Conwy, a chyfarfod un arall yno, sef Eleanor Clegg oedd ar ymweliad o Sir Benfro.

Roedd y tywydd yn anarferol o garedig, a chawsom haul braf wrth ddringo i ben Mynydd Conwy a gweld olion Castell Caer Seion - hen gaer gynoesol enfawr oedd ar y copa. Ymlaen â ni at Fwlch Sychnant, a cherdded wedyn rhwng Tal-y-fan a’r môr am rai milltiroedd gan ddilyn Llwybr y Gogledd. Mae Llwybr yr Arfordir yn cyd-redeg â Llwybr y Gogledd mewn mannau, ac mae hynny’n digwydd yn ardal y cylch cerrig uwchlaw Penmaenmawr. Mae’r cerrig, mae’n debyg, yn dyddio o tua 5,000 o flynyddoedd yn ôl, ac ychydig bellter o’r fan mae hen ffatri fwyeill y Graig Lwyd sy’n dyddio o’r oes neolithig. Rhyfedd meddwl bod pobl wedi bod yn byw yn yr ucheldir hwn mewn oes a fu.

Dilynwyd y llwybr heibio Penmaenmawr, a cherdded lawr o’r ucheldir drwy dref Llanfairfechan, a sylwi ar rai o’r tai arddull ‘Art and Crafts’ sydd yn bodoli yn y dref, a gynlluniwyd gan y pensaer, Herbert North. Ar ddiwedd y naw milltir cafwyd paned o de yn y pafiliwn hen ffasiwn ar lan y môr, ac er gwaethaf llu o faneri Jac yr Undeb oedd yn addurno’r lle, pleser oedd cael archebu yn Gymraeg, a chyfarfod nifer o siaradwyr Cymraeg yn mynychu’r caffi.

Y syndod mwyaf oedd na chawsom ddiferyn o law ar y daith - anarferol iawn yn haf 2012!

Adroddiad Gareth Tilsley

Lluniau gan Haf ar FLICKR