Dolgellau i'r Bermo 14 Mawrth
Wele'n cychwyn dair ar ddeg,
O longau bach ar fore teg;
Wele Madog ddewr ei fron,
Yn gapten ar y llynges hon.
Mynd y mae i roi ei droed,
Ar le na welodd dyn erioed:
Antur enbyd ydyw hon,
Ond Duw a'i deil o don i don.
Ia, tri ar ddeg gychwynnodd ar y bws o 'r Bermo i Ddolgellau a fi oedd yr arweinydd petrus ei fron. Tybed fydden ni yn cwblhau'r daith mewn pryd i ddal y bws a'r trên adra! Doedden ni ddim yn mynd i roi ein traed ar le na welodd dyn erioed ond roedd y llwybrau yn newydd i ran fwyaf y criw oedd erbyn hyn yn bedwar ar ddeg wedi i Gwilym ymuno a ni yn Nolgellau. Doedd hi ddim yn antur enbyd iawn chwaith, rhyw wyth milltir a hanner ar lwybrau digon difyr.
Cychwyn o sgwâr Dolgellau yn gyfochrog a'r afon Aran ac yna i gyfeiriad Bryn Mawr (ardal y Crynwyr). Wrth edrych yn ôl 'roedd golygfeydd da dros Ddolgellau. Cerdded ar hyd y ffordd am sbel wedyn nes cyrraedd croesffordd Rhydwen ac yna dilyn y llwybr ymlaen at Gellilwyd Fawr. O'r fan yma mae llwybr difyr rhwng dwy wal gerrig am bron i filltir i gyfeiriad hostel ieuenctid "Kings" a golygfa o Bared y Cefn Hir o'n blaenau'r holl ffordd. Aros i fwyta ein cinio cyntaf yn "Kings" a digon o seddi i bawb gael eistedd y tu allan i'r hostel. Dilyn y llwybr drwy'r coed at fynwent ac adfail capel a chanfod fod carreg goffa yno i Gwynfor Evans a Rhiannon Prys ei briod a hefyd carreg fedd yr athro a'r pensaer Dewi Prys Thomas. Wedyn ymlaen heibio Ty'n Llidiart ac ar hyd y llwybr gyda throed Pared y Cefn Hir. Yn anffodus doedd amser ddim yn caniatáu i ni fynd ar hyd crib y Pared. Os am fentro'r ffordd yma eto ewch ar ei hyd i gael golygfeydd gwych o'r Fawddach a Chader Idris. Heibio i lynnau Cregennen, lle gwych i dynnu llun pe bai'r golau wedi bod yn well. Ar draws y caeau wedyn at afon Arthog ac aros am ail banad cyn dilyn y Ceunant i lawr i Arthog heibio'r rhaeadrau. Gwilym yn ein gadael ni yma i wneud yn siŵr y byddai yn dal y bws yn ôl. Felly tri ar ddeg ar ôl i orffen y daith dros y bont i Bermo – yn ffodus iawn doedd dim rhaid inni dalu i'w chroesi. A wyddoch chi be? Roedda ni yn yr orsaf ddeg munud cyn i'r trên gyrraedd i'm cludo i ac Anet yn ôl!
Braf iawn oedd cael dau newydd yn ymuno a ni ar ein taith sef Gareth Williams a Rhys Llwyd. Mae yna lun o'r ddau hefo fi ymysg y lluniau symol eraill a dynnais. Doedd yr haul ddim yn tywynnu i wneud cyfiawnder a'r golygfeydd ond y tymheredd yn ddigon dymunol i gerdded.
Adroddiad gan Gwyn Williams
Lluniau gan Haf a Gwyn ar FLICKR