HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Betws y Coed 14 Tachwedd

Pawb yn cyrraedd yn brydlon ym maes parcio Betws-y-Coed ar fore dwl ond yn sych. Cerdded drwy`r pentre i gyfeiriad coed Aberllyn lle cawsom olwg ar hen weithfeydd plwm o amgylch y llwybr a cael ei hanes gan Liz a Raymond. Paned ar ol cyrraedd Llyn Parc cyn troi lawr a dilyn y llwybr o dan Carreg y Gwalch a cael mwynahau lliwiau y goedwig ac hefyd yr olygfa o ddyffryn Conwy.

Cael cinio ar ymyl y lawnt fowlio--ia lawnt fowlio!!, yn y goedwig, yn perthyn o rhyw oes i berchnogion castell Gwydir, ac cael eto mwynhau yr olygfa o`r dyffryn a thref Llanrwst.

Ymlaen i gapel Gwydir ond doedd ddim goriad ar gael i weld y tu fewn iddo ac felly ymlaen i ddilyn y llwybr ger afon Gonwy i ffarm Cwm Lannerch lle cawsom air gyda`r ffarmwr am y ddafad wael a welsom ar y llwybr.

Croesi`r ffordd a dilyn y llwybr drwy`r goedwig yn ol i Fetws-y-Coed a cael panad a cacan mewn caffi wrth y stesion i ddiweddu diwrnod da mewn cwmpeini difyr unwaith eto.

Cawsom groesawu pedwar newydd i`r criw dydd Mercher sef Fiona, Edward, Gwenan a Gwilym gan fawr obeithio y byddem yn cael ei cwmpeini eto yn y dyfodol. Yn eu plith oedd 21 arall o ffyddloniad sef:-Anet, Mair, Dewi, Bert, Eifion, John Arthur, Ann Till, Twm, Geraint, Gareth Tilsley, Arwel, Raymond, Gwen Aron, Gwen Richards, Haf, John Parry, John Williams, Gwen Evans, Iona, Liz a Gwilym yr arweinydd.

Adroddiad gan Gwilym

Lluniau gan Haf a Gwilym ar FLICKR