HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Moelwynion 15 Rhagfyr

Awyr las di-gwmwl, haul yn disgleirio oddiar yr eira llyfn (Gweler y lluniau).

Dyna oedd yn croesawu'r 9 aelod yn Nhanygrisiau fore Sadwrn. Fyny i Fwlch Stwlan, picio fyny'r Moelwyn Bach, yn ol i'r bwlch, fyny'r Mawr, lawr i Chwarel Rhosydd am ginio hwyr yna lawr Cwmorthin ac i'r caffi ger y llyn am banad a cacen. Myfyr, Anet, Gwyn Chwilog, Morfudd, Ann T, Alun Caergybi, Gwyn R, Richard a Maldwyn.

Diolch i bawb am ddiwrnod da.   

Adroddiad gan Myfyr (yr arweinydd)

Lluniau gan Myfyr ar FLICKR