HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ardudwy 18 Ebrill

Taith priodas aur Geraint a Meira



Lluniau gan Gerallt Pennant a Haf Meredydd ar FLICKR

“Mor annwyl yw Meirionnydd”

Ar y daith
Gerallt a Haf, Anet, Gwen (Aaron), Gwen (Richards), Arwyn, Gwyn a Linda, Iona, Dei a Cheryl, John Llew ac Irene, Gareth a  Margaret (Tilsli), John (Parry), John (Williams), Rhys Llwyd, Geraint a Meira, Gwynfor (Talsarnau), Ray (Owen), Dai (Lloyd)

Adroddiad Geraint Percy
Hanner can mlynedd i eleni y cartrefodd Meira a minnau yn Ardudwy a thra’n byw yn Harlech a Llanbedr a Phentre’ Gwynfryn ac yna Tal-y-bont y dechreuodd ein diddordeb ni mewn mynydda. Buom mor ffodus â threulio un mlynedd ar ddeg yn y rhan hyfryd hon o Feirionnydd a dychwelwn i grwydro’r Rhinogydd yn bur amal. A minnau’n hanu o’r un ardal â John Eilian, y prifardd a gipiodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau yn 1947 am ei bryddest ar y testun “Meirionnydd”,  y mae’n ddiddorol ein bod yn rhannu ein cariad tuag at y sir – ac yn fy achos i, at Ardudwy yn arbennig.

Gwyn ei fyd y gwr, yn y tir ddiddwndwr,
A wyr ei gyfran o gyfrinach y fan. . .
. . .  Yma yng nghreigwedd wirionedd y bryniau
Mae eto fyd sydd yn breswyl i’r ysbryd.

Pan ddeallodd Criw dydd Mercher y Clwb y byddem yn dathlu ein priodas aur ar Ebrill y deunawfed bu iddynt yn annwyl iawn awgrymu ein bod yn trefnu taith ar y diwrnod hwn ac yn naturiol  yn Ardudwy yr oedd hyn i ddigwydd. Tal-y-bont oedd y man cychwyn mewn maes parcio cyfleus ar lan afon Sgethin.

Y dydd Mawrth cyn y daith digon bygythiol oedd y rhagolygon tywydd ac wrth ddeffro yn blygeiniol ym Mangor, daeth llinellau cywydd o waith un o feirdd Ardudwy yng nghyfnod Beirdd yr Uchelwyr i’m meddwl. Fferm Mochras oedd cartref Sion Phylip ac ym mynwent Llandanwg y’i claddwyd  yn 1620 ac yntau wedi boddi ger Pwllheli wrth ddychwelyd o daith glera ym Môn ac Arfon.  Canodd ei fab, Gruffudd, englyn crefftus iddo  ac o’i ddarllen yn uchel gallwn deimlo a chlywed symudiad y rhwyfau  wrth i’w gorff  gael ei gludo drosodd i’r fynwent yng nghanol y tywod ar lan y môr.

O fwynion ddynion bob ddau  -  cyfarwydd,
Cyfeiriwch y rhwyfau:
Tynnwch ar draws y tonnau
A’r bardd trist yn ei gist gau.
                                                                                      
Yr oedd Sion Phylip yn fardd teulu i Fychaniaid Cors-y-gedol. Dyma sut y disgrifia’r wawr yn torri  yn ei gywydd i’r Wylan –

Dyddhau a wnaeth ar draeth drain
Dydd oer o’r deau ddwyrain.
Nithio gro a wnaeth hagr wynt,
Noethi cerrig, nyth corwynt.
Lliw inc fu gylch llyncfa gwynt,
Lle anadl gorllewinwynt.

Yn ffodus i’r tri ar hugain a gychwynnai ar hyd Lôn Tyddyn-y-felin i gyfeiriad Eithinfynydd am ddeg o’r gloch yr oedd y tywydd yn sych er yn oer. Yr wythnos flaenorol, a Meira a minnau’n chwilio’r daith i ofalu bod pob giât yn agor a phob camfa’n gamadwy ac i osgoi  dringo a chwalu unrhyw wal gerrig, yr oeddem wedi cael sgwrs annwyl, llawn atgofion gyda Bethan a Hefin ac un o’r meibion ar fuarth Eithinfynydd. Cofiais am gywydd hyfryd Dafydd ap Gwilym, “Y Fun o Eithinfynydd”, ac er mai â’r ardal rhwng Dolgellau a Llanuwchllyn y mae ‘ysgolheigion’ yn cysylltu’r ffarm, y mae fy ffansi i bob amser yn cysylltu’r  ferch hon y syrthiodd yr athrylith o fardd  ac athrylith o garwr â hi â ffarm Eithinfynydd yn Ardudwy.

Y fun o Eithinfynydd,
F’enaid teg, ni fyn oed dydd.
Feinion aeliau, fwyn olwg,
Fanwallt aur, fuanwyllt wg,
Fy ngwynfyd rhag trymfryd tranc,
Fy nuwies addwyn ieuanc,
Fy nrych, llewych mewn lliwaur,
Fy rhan yw, fy rhiain aur,
Fy swllt dan fynwes elltydd,
Fy serch ar hon fwyfwy sydd.

Mae’n wyrth meddwl cymaint o ystyr y llinellau uchod,a ganwyd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, y gallwn ni ei ddilyn heddiw.  Prin y gellid honni’r un peth am un llenyddiaeth arall yn y byd.

Gallai’r daith hon gyda’r Clwb Mynydda yn hawdd droi’n daith Cylch Llenyddol a gallai yr un mor hawdd fod yn daith archaeolegol.  Ni chredaf fod unrhyw ardal ym Mhrydain – ar wahan i Ynysoedd Erch ( yr Orcni) efallai – y mae cymaint o olion cartrefi dyn yng nghyfnodau cyn-hanes i’w gweld. Yn union o dan ffarm Eithinfynydd ceir enghraifft wych o  amgau-le neu fryngaer. Yn nes ymlaen ar ein llwybr, cafodd Gerallt le bendigedig i arfer ei sgiliau creadigol gyda’i gamera  wrth hen furddun  y deil cymeriad iddo .  Ychydig o ddringo oddi yma ac yr oeddem ar fryngaer drawiadol Pen-y-dinas  lle y cawsom i gyd brofi  tamaid o’r gacen  ddathliadol yr oedd Meira wedi’i darparu.

Dros ddau gant o flynyddoedd yn ôl, bu Pennant arall, Thomas Pennant, ar daith yma. Castell Dinas Cortin oedd ei enw ef ar y gaer. Yn 1919 cloddiwyd y safle yn fanwl iawn gan archaeolegydd o’r enw Crawford. Bu caer yma, mae’n debyg, o gyfnod tua saith canrif cyn Crist ac fe’i helaethwyd yn y cyfnod yn union cyn i’r Rhufeiniad oresgyn y wlad. Oherwydd y safle amlwg credir i’r gaer fod yn bwysig yn yr Oesoedd Canol. I’r de o’r safle y mae Ceunant Egryn  a throsto â olion enwog Carneddau Hengwm â ni yn ôl dair mil a hanner o flynyddoedd cyn Crist. Mae’n syfrdanol meddwl fod y darn hwn o dir y bu gwartheg duon Moses Gruffydd - tad Dr  R Geraint Gruffydd ac awdurdod mawr ar amaethyddiaeth - yn ei bori ac yntau yn byw yn Egryn, wedi cael ei “ffarmio” am dros bum mil a hanner o flynyddoedd. Perthyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol y mae Egryn heddiw. Fe’i codwyd yn wreiddiol yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Ar fin y lôn cyn cyrraedd y plasty bychan o gyfeiriad Tal-y-bont, gwelwn hen gapel Egryn a golwg ddi-raen iawn arno. Mor wahanol oedd o yn 1904 yn adeg y Diwygiad pan welwyd “golau” uwch ei ben. Fel hyn y cyfeiria T H Parry-Wiliams at y ffenomena:

Cariadon y Crist a glewion yr Ysbryd Glân
Yn gweled yng “ngolau Egryn” eu Duw yn dân”.

Gallem fod wedi treulio gweddill y dydd yn archwilio’r gaer yng nghwmni Dr John Llywelyn Williams, arbenigwr yn y maes  a chyfaill oes i mi a’r “gwas” a drosglwyddodd y fodrwy i mi yng Nghapel Holloway yn 1962, ond rhaid oedd prysuro a dringo’r ffriddoedd i gyfeiriad Bwlch y Rhiwgyr. Yma ni dderbyniodd neb yr her i chwilio am yr ogof yr honnir bod ynddi drysor o aur yn y llecyn y gellir gweld simnai Sylfaen a chlochdy eglwys Llanenddwyn oddi arno. Ond fe dalwyd teyrnged i  un o gewri byd mynydda yng Nghymru. Ar Fwlch y Rhiwgyr ac yntau yn blentyn tuag un ar ddeg neu ddeuddeg yr heuwyd hedyn obsesiwn Ioan Bowen Rees gyda bylchau . Gwell dyfynnu ei eiriau ef yn ei ysgrif “Dau Fwlch” yng nghyfrol Nadolig 1987 y cylchgrawn Taliesin.

“Fy nhad a’m difethodd gyntaf – gwneud imi gymryd yn ganiataol y buasai rhywun i ddisgwyl amdanaf ac i’m hebrwng adref ym mhen draw pob taith hir ar draws y mynyddoedd : o Oerddrws i Islaw’r-dref, o Lanbedr yn Ardudwy i Lanelltyd, o Gerrigydrudion i’r Ganllwyd, o Gapel Curig i Groesor. Arno ef hefyd y mae’r bai am hau hedyn fy obsesiwn gyda bylchau. Ar Fwlch y Rhiwgyr y bu hynny, wrth fynd o’r Bermo i’r Bont-ddu ar hyd Llawllech. Dyna’r tro cyntaf erioed imi gael blas ar daith hir ar droed. Wrth i’r olygfa ddod i’r golwg yn ffrâm y bwlch – yr Wyddfa a Moel Hebog a phenrhyn Llyn, Ardudwy a Mochras a’r môr ac Enlli – dyfynnodd fy nhad o soned Keats : “Then felt I like some watcher of the skies . . . “ . Athro Saesneg oedd fy nhad wrth ei alwedigaeth. Ni soniodd y tro hwnnw am Adar Rhiannon ‘yn yn perl gynteddoedd / sy’n agor ar yr hen anghofus fôr’. Ond yn ei achos ef, ac yn fy achos innau, arweiniodd ar gariad tuag at y mynyddoedd, tuag at Gymru, a tuag at yr anweledig gôr sy’n canu i arloeswyr a phererinion.”

Cofiai Rhys Llwyd yn dda dad Ioan Bowen Rees yn dysgu Saesneg iddo yn Ysgol Dolgellau a chafodd mintai fach ohonom fwyta ein cinio a gwrando ar Gareth  a Margaret (Tilsli )yn adrodd yn hyglyw soned fawr Keats yn yr union fan ag yr adroddodd y tad diwylliedig hi i’w fab hydeiml.

O ben y Bwlch dewisodd Margaret, Linda a Meira ddilyn y llwybr sydd yn rhan o Ffordd Ardudwy i lawr at Bont Fadog a Llety Loegr ac yna trwy’r coed bendigedig gyda glan afon Sgethin ac yn ôl i Dal-y-bont. Ac yno yn nhy Margaret a Gareth, mwynhaodd y tair egwyl ymlaciol, bleserus. Dilyn y llwybr clir yng nghysgod wal gerrig grefftus tua’r gogledd ar hyd Llawllech wnaeth y gweddill ohonom cyn disgyn i gyfeiriad y bont ryfeddol yn unigedd Ardudwy. Ar ymyl y llwybr hwn gosodwyd carreg  gan Esgob Caerwynt i gofio ei fam, gwraig o’r enw Janet Haigh a arferai ddringo’r llethr a hithau dros ei phedwar ugain ac yn rhannol ddall. Dyddia Pont Sgethin yn ôl i’r unfed ganrif ar bymtheg ac ar un amser bu cryn dramwyo drosti gan y porthmyn. Llawenydd oedd clywed fod cynlluniau ar y gweill i gael gwared ar y concrit a ddefnyddiwyd i’w hatgyweirio dros y blynyddoedd ac yr adferir hi i’r hyn ydoedd ddegawdau’n ôl. Bu cryn oedi ar ganllaw’r bont ac ar lannau’r afon fach er mwyn i Gerallt gael ein gosod dan ei lygaid craff yn ôl maint a lliwgarwch ar gyfer llun arall swyddogol. Oddi yma at Lety Lloegr bu i lawer ohonom elwa ar wybodaeth leol fanwl Haf o hanes y murddunod o fewn golwg ac o arferion y porthmyn.

Y mae’r llwybr sydd yn dilyn afon Sgethin o Lety Lloegr i lawr i Dal-y-bont yn sicr yn un o’r llwybrau mwyaf cyfareddol y gellir ei gael. Ar derfyn ein taith cyhoeddodd Gwen (Richards) mai deng milltir union a gerddasom. I Meira a minnau bu’n daith llawn atgofion bendigedig yn ein hen gynefin yng nghwmni  ffrindiau cywir a hwyliog y cawsom gyd-gerdded â hwy dros gannoedd o filltiroedd yng nghwrs y blynyddoedd. A braf hefyd oedd croesawu ffrindiau newydd i’r Clwb ar y daith.

Ond nid pentref Tal-y-bont oedd diwedd cyfaredd y diwrnod. Gwahoddwyd pawb i alw draw yn nhafarn y Fic ym mhentref Llanbedr cyn troi tuag adref. Mae rhai o’r lluniau a dynnwyd yno yn dangos yn glir pa mor emosiynol oedd y profiad i Meira a minnau pan gariodd Arwyn  gacen anferthol i’r bwrdd. Diolch o waelod calon i’r rhai a drefnodd hyn a diolch i chwi i gyd am eich cefnogaeth a’ch cwmnïaeth. Anghofiwn ni byth eich caredigrwydd.

Yn y ddeunawfed ganrif canodd bardd o Fôn, Lewis Morris, fawl  i’r sir yn ei “Caniad y Gog i Feirionnydd”. Fel y tystia pennill cyntaf y gerdd hyfryd hon, nid yw’r sir wedi newid:

Er a welais dan y sêr
O lawnder glewder gwledydd,
O gwrw da a gwyr i’w drin,
A gwin ar fin afonydd, -
Gorau bir a gorau bwyd,
A rannwyd i Feirionnydd.

Geraint Percy  - a Meira