HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cylch Moel Goediog, Ardudwy 22 Awst

Hanner dwsin - John Arthur, Anet, Gwen Aaron, Eirlys, Helen a Haf - ddaeth draw i Ardudwy i gerdded cylch Moel Goediog.

I fyny yn y ceir heibio Maes y Neuadd i ben draw’r ffordd wrth Moel y Geifr a’r cymylau’n ddigon isel wrth i ni gychwyn. Dilyn rhywfaint o ffordd Dŵr Cymru cyn troi tua’r de a dilyn ffordd yr Oes Efydd bron cyn belled â fferm Merthyr uwchben Harlech, wrth droed Moel Goediog, gan fynd heibio ambell i gylch cerrig amlwg, cyn troi tua’r tir. Dod i olwg Cwm Mawr a Chwm Bychan, ond troi tua’r gogledd a chyrraedd Llyn Eiddew Mawr. Y tywydd yn codi erbyn hyn a mwy o’r bryniau o'n cwmpas i’w gweld - Carreg y Saeth, Clip, Moel Ysgyfarnogod a Moel Penolau. Cwblhau’r cylch drwy ddilyn ffordd Dŵr Cymru’n ôl tua’r môr a galw i weld daear y moch daear wrth agosáu at y ceir.

Diolch i’r criw bach ffyddlon (nad oedd yn digwydd bod yn crwydro dramor ar y pryd!) am bicio draw i rannu’r golygfeydd a’r hwyl.


Adroddiad gan Haf, gyda lluniau ar Flickr