HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y ddwy Aran 25 Chwefror

Chwech yn unig ddaeth at ei gilydd ym maes parcio Blaencywarch i gerdded heibio'r ffarm a Chreigiau Camddŵr ar hyd llwybr Rhyd-y-main a chael ein gwobrwyo gan haul i'n cefnau ac awyr las o'n blaenau.  Daeth cymylau erbyn inni gyrraedd copaon Aran Fawddwy ac Aran Benllyn ond gyda haul gwyn uwchben o hyd a golygfeydd trawiadol i lawr at Greiglyn Dyfi a Chwm-croes.  Dychwelwyd lawr y Dyrysgol a Hengwm o fewn rhyw saith awr.  Dim ond pedwar arall a welwyd drwy'r dydd (oedd 'na rhyw gêm rygbi ymlaen?) felly cyfle i fwynhau tawelwch ac unigedd Cywarch ar ddwy Aran. Diolch i Richard a Nic o Ruthun, Ann o'r Waunfawr, Eifion (Llanfair-pwll) ac Iolo Caernarfon) am eu cwmni.

Adroddiad gan Eryl Owain.