HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Tarennau o Bennal 25 Awst

Er gwaethaf darogan glaw trwm cafodd y saith ohonom a wnaeth y daith ddiwrnod sych os cymylog. Wedi milltir go dda o gerdded i mewn ar hyd ffordd gefn dawel, esgynwyd cefnen Mynydd Cefn Caer gan fwynhau golygfeydd o ddyffryn Dyfi cyn i'r cymylau ein llyncu. Tarren y Gesail (667 medr/2186') oedd y copa cyntaf, yna nol ar hyd y grib ac ymlaen i Darrenhendre (634 m/2080') gyda'r cymylau'n cilio digon i ganiatau cipolwg o chwarel Bryneglwys a phentref Abergynolwyn. Taith hamddennol lawr cefnen Ffridd Rhosfarch i gwblhau diwrnod gwerth chweil - y tro cyntaf i bawb o'r criw, gan gynnwys yr arweinydd (?!#!), esgyn y Tarrennau o Bennal yn hytrach nac o Ddyffryn Dysynni.

Braf iawn oedd cael cwmni ffyddloniaid - Iolo, Elen a Raymond ond hefyd POBL IFANC! Daeth Rhodri o Aberystwyth ac roedd dwy fyfyrwraig, Anna o Frynrefail a Marged o Forfa Nefyn, ar eu taith gyntaf (o lawer, gobeithio!) efo'r clwb.

Er gwaethaf y diffyg golygfeydd a cherdded drwy ambell i gors roedd gwên ar eu hwynebau gydol y dydd! Braf yw cael cofnodi bod 43% o'r cerddwyr yn 25 neu iau! O ia, ni welwyd neb arall chwaith drwy'r dydd - cawsom y mynydd i ni'n hunain.

Adroddiad gan Eryl

Lluniau gan Rhodri ar Flickr