HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Peris 26 Mai

Ymunodd 14 o aelodau â mi yn y maes parcio yn Nant Peris sef Alun,Dwynwen, Eifion,Eirwen, Gwen (Richards), Gwilym,Gwyn (Chwilog), Gwyn (Llanrwst) , Hywyn,Iolyn,Richard, Sian (Port),Sian (Shaespear) a Sioned.

Yr haul yn twynu ond wrth ddringo i fyny Elidir Fawr, y gwynt yn codi, ac er ei bod yn heulog a’r awyr yn las trwy’r dydd, prif nodwedd y diwrnod oedd y gwynt. Erbyn cyrraedd copa Elidir Fawr, prin y gallem sefyll heb gael ein chwythu drosodd. Wrth ailgychwyn wedi paned yn y lloches ar y copa cafodd un ohonom ei gipio i fyny a’i luchio gan hyrddiad o wynt, ond yn ffodus ni chafodd unrhyw anaf.

Lawr wedyn o’r copa a brwydro yn erbyn y gwynt ar hyd Bwlch y Marchlyn a Bwlch y Brecan, Gwen yn penderfynu ei bod wedi cael llond bol ar y gwynt ac yn mynd i lawr yn ôl i’r Nant. Y gweddill ohonom yn dal ati  gydag ochr Moel Goch yn hytrach na drosti er mwyn cael cysgod o’r gwynt am gyfnod.

I fyny i gopa’r Garn lle cawsom ginio mewn llecyn cysgodol yn mwynhau’r haul a golygfeydd gwych drosodd i’r Wyddfa a‘r mynyddoedd o’i chwpas. Ar ol cinio lawr i Llyn Cwn cyn dringo eto at y Glyder Fawr. Diolch i Gwyn a Gwilyn am gael hyd i lwybr llawer mwy hwylus na’r un roeddwn wedi bwriadu ei ddilyn. Seibiant sydyn ar y copa lle collais fy nghap, yr unig anffawd a gawsom i’r gwynt hegar.

I lawr am Ben y Pass wedyn, a chyrraedd yno mewn pryd i ddal bws Sherpa yn ol i’r Nant. Cyfle wedyn i roi’r byd yn ei le yn y Vaynol cyn mynd adref, lle cafodd Gwyn Llanrwst y seidar yr oedd wedi sôn cymaint amdano ar y ffordd i lawr o’r Glyder Fawr!
Diwrnod difyr a diolch i bawb am eu cwmni.

Adroddiad Iolo Roberts, lluniau ar Flickr