Taith i'r Queyras 10-24 Gorffennaf
Cefais fy hebrwng i orsaf Bangor erbyn ganol dydd gan godi Gwyn Williams ac Elen Huws ar y ffordd. Roedd Alun Hughes eisioes ar y tren a chodwyd John Arthur yng Nghyffordd Llandudno.
Roeddem wedi bwcio taith tren am fil o filltiroedd drwy Lunden, Y Twnel, Paris a Lyon gan gyrraedd de Frainc, ddim ymhell o ffin yr Eidal, mewn pentre bach or enw Gilliestere Mt Dauphine. Braf oedd deffro yn y bync am 7-00 y bore gweld tirwedd sych a phopeth yn crino, tipyn o wahaniaeth i dywydd Cymru 2012 .........!
Cawsom fws bach y wlad wedyn ychydig o filltiroedd i bentref hynafol St Veran, 2200 m. Roedd ein taith gerdded yn dechrau yma ac roeddem wedi cyrraedd yma yn hwylus a di-ffwdan mewn 20 awr. Roedd ein diwrnod cynta yn 6 awr o gerdded gan gyrraedd Rifugio Agnel 2600 m yn hwylus erbyn diwedd y pnawn.
Roedd Elen Huws wedi bwcio y 4 noson gyntaf drwy asiantaeth ac wedi talu mlaen llaw amdanynt. Trefniant hwylus iawn gan fod 5 ohonom a doeddem ddim yn siwr pa mor brysur oedd y cabanau. Roedd swper, dormatori a brecwast yn costio rhwng 35-40 Ewro pob noswaith. Bargen dda iawn greda i. Roedd hanner ein nosweithiau mewn pentrefi bychain, a'r gweddill mewn cabanau uchel.
Roedd y tywydd yn fendigedig, haul pob dydd, a mymryn o awel fain o'r gogledd yn y mynyddoedd uchel, dymunol iawn.
Mynydd amlwg yr ardal yw Mt. Viso 3800 m gyda siâp urddasol iddo, debyg i'r Matterhorn.
Cawsom 10 niwrnod o gerdded ac roedd bwlch oddeutu 2800 m o uchder i'w esgyn bron pob diwrnod. Ar ôl cyrraedd y bwlch roedd dewis o gopa os oedd ambell aelod yn teimlo yn egniol ac yn fodlon rhoi awr neu ddwy ar y diwrnod. Rhaid i mi gyfaddef tueddu i gael rhyw gyntun bach oedd fy arferiad i.
Y diwrnod hwyaf oedd 10 awr, ar diwrnod byraf yn 5 awr..
Uchafbwynt y daith i mi oedd cyrraedd pentref bychan Abries ar Orffennaf 14, sef Dydd y Bastille. Roedd ein dorm braidd yn fychan yn y gwesty crand ond cafwyd pryd 5 cwrs bendigedig. Troedio lawr i'r pentre wedyn i gael noson o ganu, dawns werin a sioe fendigedig o Dan Gwyllt i gau pen y mwdwl.
Pan oeddem yn uchel yn y Queyras roedd golygfa dda iw gael o fynyddoedd yr Ecrin 70 milltir i ffwrdd i'r gorllewin gyda chopaon gwyn Pelvoux a'r Meje i'w gweld. I'r gogledd roedd mynyddoedd y Vaniose i'w gweld ambell dro, roedd rhain oddeutu 100 milltir i ffwrdd.
Mae'r Queyras yn gornel fach hen ffasiwn a thawel o Ffrainc, gyda phentrefi bach anghysbell chysglyd. Mae'n arferol i deuluoedd lleol i cerdded y llwybrau gyda mul yn cario'r gêr. Ar ôl bod wedi bod yno am bythefnos dau Sais yn unig welsom.
Roedd y croeso y gynnes iawn yn y cabanau. Mae'n siwr fod Ffrangeg mirain Elen yn gymorth mawr i hyn. Diolch iddi am y trefnu.
Adroddiad gan John Meurig Parry
Lluniau gan Elen Huws ar Flickr