HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Penwythnos Trefin 6-7 Hydref



Mewn cyfnod ansefydlog, roeddem yn ffodus i gael dau ddiwrnod tawel, braf ar gyfer y penwythnos.

Ar y Sadwrn, cerdded o Lanwnda i lawr i’r clogwyni ger Carregwastad a’r gofeb i laniad y Ffrancod yn 1797, a wedyn ar hyd yr arfordir heibio’r goleudy ym Mhen Caer (Strumble Head) ac i Bwll Deri, gyda clip go serth i fyny i’r ffordd a dros Garn Fawr yn ol i’r maes parcio. Ar ôl dipyn o waith sortio, rhai yn mynd i bigo’r ceir a’r gweddill yn dychwelyd i’r hostel yn Nhrefin.

Ar y Sul, gadael ceir yn Abereiddi cyn mynd i ddechrau ein taith ym Mhorth Mawr, ger Tyddewi. Ar ôl sbec bach ar Benrhyn Dewi, teithio ar hyd y llwybr wrth odre Carn Llidi a Phen Beri yn ôl i Abereiddi, lle roedd y fan hufen iâ yn ein disgwyl.

Diolch eto i Sue a Chris am groeso mor gynnes yn yr hostel ac i dafarn y Ship am arlwyo i’r criw ar fyr-rybudd.

Adroddiad gan Raymond gyda lluniau ar Flickr