HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Yr Wyddfa 1 Ionawr



Wedi Nadolig gwlyb, mentrodd unarddeg i faes parcio Pen y Pass ar fore Calan sych, os oer a gwyntog. Y gwynt yn ein deffro ar y ffordd i Fwlch Moch. Yno, dau ddewr yn penderfynu mynd am Grib Goch, a'r gweddill yn dilyn Llwybr y PyG. Tipyn o hen eira caled ar ddarn olaf y llwybr i Fwlch Glas, a'r ddaear wedi rhewi'n galed dan draed. Cwmwl lawr i tua 700 m felly dim llawer i'w weld!

Bron cael ein chwythu i ffwrdd wrth geisio cyrraedd y pwynt trig ar gopa'r Wyddfa – ond llwyddo i dynnu llun neu ddau rhywsut. Stwffio gweddillion cacen Dolig tra'n cysgodi oddi wrth y gwynt deifiol oer tu ôl i Hafod Eryri, cyn troi am Lwybr y Mwynwyr. Rhyfeddu cymaint o bobl oedd yn dal yn dod i fyny'r Wyddfa'n hwyr yn y dydd, gydag amrywiaeth diddorol o ddillad a sgidiau....

Paned yn y Caban i orffen!

Adroddiad a lluniau gan Gwyn Roberts

Lluniau gan Gwyn Roberts ar Flickr