Yr Wyddfa 2 Mawrth
Daeth deunaw ynghŷd ym Mhen-y-gwryd ar fore arbennig o braf, a phawb mae'n amlwg yn dewis cerdded i Ben-y-pas yn hytrach na thalu £10 yno - a chystal hynny gan fod y maes parcio eisoes yn llawn erbyn chwarter wedi naw. Ond dau fwy doeth na'r gweddill wedi sylweddoli bod bws o Ben-y-gwryd ar yr union adeg iawn ac yn cyrraedd Pen-y-pas gyda gwên foddhaus ar eu hwynebau!
Cerdded hamddenol yn yr haul a phaned ger Glaslyn cyn sgrialu dymunol iawn i fyny Cribau (neu'r Gribyn??) gyda chraig sych dan draed yn gwneud pethau'n ddigon rhwydd. Wyth yn mynd i'r blaen wedyn (Sian [Port], Manon [Caerdydd], Morfudd, Elen Huws, Iolo Roberts, Gareth Everett, Gareth 'Rynys a Gareth Wyn) er mwyn dringo Lliwedd hefyd a'r gweddill (Gaynor, Richard a Llinos, Sioned Llew, Anet, Gwyn [Chwilog], Iolyn, Rhys Dafis, Arwel ac Eryl) yn mynd yn syth am gopa'r Wyddfa. Gwisgo cramponau ar y copa cyn cychwyn i lawr llwybr Pen-y-gwryd o Fwlch Glas gan ddechrau amau mai ni oedd y rhai od - doedd dim sôn am gaib hyd yn oed gan y mwyafrif llethol! Pawb o'r farn na welwyd erioed y fath gasgliad o ddillad ac esgidiau anaddas a cherddwyr di-glem! Mae'n wir ei bod yn meirioli yn llygad yr haul, nid y byddai neb yn gwybod hynny cyn cyrraedd y copa. Gweld rhai yn dringo'r hafnau ar Glogwyn y Garnedd felly'r rhew yn dal yn soled yno mae'n rhaid.
Yr wyth fu ar Lliwedd yn ail-ymuno â'r gweddill i'n gwneud yn fintau gyflawn am yr hanner awr olaf o ddiwrnod gwerth chweil - diolch i'r tywydd a'r cwmni diddan!
Adroddiad gan Eryl Owain
Lluniau gan
Morfudd ar Flickr