HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Carneddau 6 Gorffennaf

16 o gerddwyr yn cyfarfod  ar fore Sadwrn braf a heulog,a braf oedd croesawu dau aelod or De sef Heini a Simeon yn ogystal a Sioned Ll,Richard, Iolo, Eirwen, Prys, Gareth Ef, Gaynor, Dafydd L, Alun Hughes, Gwyn Chwilog, Alice, Sioned Hughes, Gareth Rynys a finnau.

Cerdded i fyny drwy Gerlan, ac allan i’r mynydd gan gerdded  gyda  godre Gyrn y WIgau.Dilyn y clawdd a chroesi i fyny i gyfeiriad Cwm caseg at droed y grib.Dringo serth i fyny y grib dwyreiniol i gopa’r Elen a penderfynu cael seibiant a chinio yn yr haul.

Ymlaen wedyn i Garnedd Llywelyn ,Bwlch Cyfryw y Drum a Carnedd Dafydd.Paned sydyn yno cyn cychwyn lawr Grib Lem i ben Cwm Llafar,a phawb wedi mwynhau erbyn cyrraedd y gwaelod.

Cerdded hamddenol lawr y Cwm yn ol i Gerlan,a diod haeddianol yn y dafarn lleol.

Diwrnod da o fynydda gyda cwmni hwyliog.

Adroddiad Gareth Wyn a Gareth Rynys.