Bryniau Clwyd, 7 Rhagfyr 2013
Diwrnod o awyr las di-gwmwl drwy’r dydd. Daeth Eirwen (Fachwen) , Alun( Caergybi) a John Arthur i gychwyn o’r Dderwen Fythol-wyrdd yn Llanferres gyda Gwen yn arwain. Yr unig beth mae Llanferres yn enwog amdani yw mai dyma lle ganed y Dyneiddiwr enwog John Davies Mallwyd , fu’n golygu Beibl William Morgan ac yn rhan o’r Dadeni yng Nghymru.
Croesi’r ffordd fawr a thua’r De i ddilyn Llwybr Clawdd Offa cyn troi am Lyn Gweryd ac i Lanarmon. Galw i mewn i’r Raven lle roedd yr aelwyd yn glyd wrth y tân coed ar ôl gwynt oer y Moelydd. Ymlaen wedyn i balmant calchfaen Bryn Alun ac yn ol i Blymog.
Taith tua 10 milltir a phawb yn ôl yn ddiogel erbyn 3-15.
Diolch am eich cwmni difyr..
Adroddiad gan
Gwen
Lluniau gan Eirwen ar Flickr