HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Aran Fawddwy ac Aran Benllyn 8 Mehefin

Ar ddiwrnod braf dros ben daeth dros ugain ynghŷd yn Llanuwchllyn i ddal y bws i Ryd-y-main ond gan fod honno eisoes bron yn llawn bu'n rhaid defnyddio ceir hefyd. Cerdded hamddenol heibio ffarm Esgair-gawr a fyny cwm Afon Harnog i gopa Aran Fawddwy ac ymlaen dros Erw'r Ddafad Ddu i Aran Benllyn. Cawsom fwynhau golygfeydd o fynyddoedd pell ac agos gan edrych i lawr at Greiglyn Dyfi, Llyn Lliwbran a Chwm Croes yn isel ar y dde cyn disgyn tua Llanuwchllyn. Roedd Dyfir a nifer o'r teulu - dair cenhedlaeth ohonynt - yn aros amdanom wrth y garreg goffa i Llew ac roedd yn fraint gael eu cwmni i gyd-gerdded rhan olaf y daith. Diolch iddynt am eu cydweithrediad a'u hanogaeth wrth i ni drefnu'r daith ac i Owain Gwent am gyd-arwain efo Arwel Roberts. Roedd yn gyfle i bawb ohonom ddwyn i gof ein hatgofion o gyfaill annwyl iawn ac un o aelodau ffyddlonaf Clwb Mynydda Cymru.

Adroddiad Eryl Owain

Lluniau gan Haf