HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Bryniau Clwyd, taith yr Eisteddfod 8 Awst


Ar gopa Moel Fammau

Arweinydd: Richard Roberts
Daeth 18 ohonom ynghyd wrth fynedfa’r brifwyl i gael ein cludo mewn bws mini i faes parcio ger Llangwyfan a dechrau’r daith.
Alun, Arwyn, Maldwyn, Sioned, Angharad, Eryl, Iolyn, Eirlys, Eileen, Gwilym, Iolo, Helen, Digby, Iolo (ap Gwynn), Huw Myrddin, Gwen, Bruce.

Taro ar ambell i griw Cymraeg eu hiaith wrth droedio’r moelydd ar Lwybr Clawdd Offa gan fwynhau golygfeydd godidog o Ddyffryn Clwyd a maes yr Eisteddfod.
Cael cinio ar gopa Moel Fammau ac oedi am ychydig wedi hynny ym mwlch Pen Barras lle llwyddodd Huw Myrddin i gysgu ar glawdd am ychydig funudau!
Dros Moel Fenlli a hebio godre Moel Eithinen cyn disgyn trwy’r coed i dref Rhuthun. Y mwyafrif yn dal y bws i Ddinbych a 4 ohonom yn mwynhau llymed yng Ngwesty’r Castell.

Diolch i bawb am eu cwmni difyr.

Adroddiad: Richard Roberts

Lluniau: Iolo (ap Gwynn) ar FLIKR