Cylch Carreg Cannan Ogwen, 11 Rhagfyr 2013
Ar fore braf o Ragfyr cychwynnodd 26 ohonom i fyny’r lôn feics o Borth Penrhyn. Cerddom ar hyd hen drac y lein fach a arferai gario’r llechi o Chwarel y Penrhyn i’r cei. Ar y bont ‘lliwiau’r Urdd’ sy’n croesi’r B4361 gwelsom olion gorsaf Felin Hen. Dyma lein drên arall fu’n cario teithwyr rhwng Bethesda a Bangor. Ymlaen â ni heibio Fferm Gydweithredol Moelyci i ganol pentref Tregarth i weld mans y capel Wesley mawr yno. Dyma fu cartref Tegla Davies ond erbyn hyn mae’n gartref i Bryan a Catrin sy’n rhedeg busnes gwely a brecwast ynddo o’r enw Pant Teg. Gwahoddwyd ni i gyd i’r tŷ am goffi a mins peis; lletygarwch eithriadol o feddwl ein bod yn 26 o fynyddwyr barus, sychedig. Catrin yw mam Ioan Doyle ac roedd Hilary ei chyfaill yno i’w chynorthwyo. Hilary yw chwaer Malcolm Mills fu’n hyfforddi Ioan ar gychwyn ei yrfa ddisglair fel dringwr creigiau.Wedi’r sesiwn orfodol o dynnu llun grŵp ymlaen â ni drwy gaeau i lawr i’r A5. Troi wedyn gydag afon Ogwen i weld y Graig Cannan gerllaw. Dull oedd gan y chwarelwyr i ddathlu digwyddiadau o bwys yw’r Creigiau Cannan ac mae 235 ohonynt wedi eu nodi yng Ngwynedd yn unig. Roedd cerdded drwy ddail yr hydref ar hyd yr afon yn ddymunol tan i ni ddod i sŵn traffig yr A55 ac i gyffiniau stad ddiwydiannol Llandygai. Mewn un man roeddem yn cerdded uwchben twnnel yr unig drên sy’n dal i redeg, sef yr un o Gaergybi i Lundain. Gwelsom y tŵr sylweddol fu’n dwll awyr i adael i ager yr hen drenau stêm ddianc. Roedd pawb yn ôl ar y cei erbyn 3 o’r gloch a daeth y daith i ben fel arfer gyda phaned, y tro hwn yn Y Tŷ Golchi.
Adroddiad gan Gwen A.
Lluniau gan Haf ar Flickr