Llanrhychwyn, Geirionydd a Chrafnant 12 Mehefin
Mae teithiau dydd Mercher yn hynod boblogaidd, a chychwynnodd 24 ar y daith hon, er nad oedd y tywydd yn arbennig o garedig. Cychwyn o’r maes parcio gyferbyn â ‘Tu Hwnt i’r Bont’ a cherdded drwy goed i hen eglwys Llywelyn Fawr yn Llanrhychwyn a chael paned - rhai yn yr eglwys ac eraill tu allan mewn glaw mân. Mynd dros y bryn i gyfeiriad hen waith plwm Pandora, a phasio cyn-gartref Dilys Cadwaladr cyn troi i lawr at Lyn Geirionnydd a chael cinio ar feinciau pwrpasol a chyfleusterau da gerllaw. Dilyn llwybr dros Fynydd Deulyn a gweld Llyn Crafnant, cronfa naturiol dŵr Trefriw a Llanrwst, oddi tanom, a cherdded ger ochr y llyn at ei ben.
Dyna ni felly wedi gweld dau o’r llynnoedd a ddisgrifiodd Gwilym Cowlyd, bardd o’r ardal yn ei englyn:
Y llynnau gwyrddion llonydd - a gysgant
Mewn gwasgod o fynydd,
A thynn heulwen ysblennydd
Ar len y dŵr, lun y dydd.
Methu cael unman addas i lun o’r criw - siom i rai, llawenydd i eraill! Cael cymorth Gwilym Jackson, sy'n enedigol o Drefriw, i’n tywys heibio i hen waith plwm Klondike, lle bu twyll gan ddyn o’r enw Joseph Aspinall tua 1920, twyll tebyg i ddisgrifiad Daniel Owen o waith Capten Trefor yn ei nofel Enoc Hughes. Llwyddodd Aspinall i ddwyn £166,000 drwy werthu cyfranddaliadau diwerth, a chael ei garcharu am ddwy flynedd. Mynd heibio i’r rhaeadr yn Nhrefriw a phenderfynu cael paned yng nghaffi'r Ffatri Wlân yn y pentref. Dau yn dal y bws, a’r 22 ffyddlon yn mynd draw am Bont Gower, a chael llun o bawb o'r diwedd cyn dilyn ochr yr afon Gonwy ac yn ôl at y ceir tua 4:30.
Dros 10 milltir medd rhai! Tywydd wedi gwella drwy'r dydd, a phawb yn cyrraedd yn ôl yn sych.
Adroddiad Gareth Tilsley
Lluniau gan Haf ar Flickr