Moel Lefn, Moel yr Ogof, Moel Hebog 12 Hydref 2013
Diolch i bawb oedd â digon o ffydd ynof i ddod ar y daith gyntaf i mi ei harwain i’r Clwb Mynydda - sef Anet, Gwyn, Haf, Siân (Port), Delyth, Huw Myrddin, Sioned, Ray, Gwilym, Iolo, Siân (Shakespear), Manon, Alun a Clive. Dal y bws Sherpa am 9.25 o Feddgelert i Ryd-ddu. Er ei bod yn fore digon braf ac eithaf heulog, wrth edrych draw am ein tri chopa am y diwrnod roedd yn edrych yn o ddu am y mynydd uchaf, Moel Hebog. Ac felly y bu.
Cerdded hamddenol i ddechrau heibio godrau’r Garn a Mynydd Drws y Coed, gan stopio i dynnu’n cotiau yng ngwres yr haul. Codi wedyn trwy’r coed i Fwlch y Ddwy Elor. Paned fanno yn wynebu’r olygfa newydd o’n blaen i’r gorllewin, a’r wal yn ein cysgodi rhag y gwynt gogledd-ddwyreiniol. Ymlaen heibio hen chwareli blaen Cwm Pennant cyn troi i fyny am gopa Moel Lefn. Swatio dan y copa fanno i gael cinio gan edrych ar yr haul yn cyfoethogi lliwiau hydrefol y mawndir ar Grib Nantlle gyferbyn. Ymlaen dros Foel yr Ogof cyn dringo llethrau serth Moel Hebog - ac i mewn i’r niwl. Dyma’r lle oeraf - roedd y gwynt yn gryf a’r niwl yn cau amdanom. Hoe fach eto, yna troi am i lawr, a toedd hi ddim yn hir cyn i ni allu gweld draw am Nant Gwynant a Beddgelert oddi tanom.
Diolch am gwmni da ar y mynydd a llawer o glebran a chwerthin!
Gweddill y lluniau gan Haf ar FLIKR