HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Llethr o'r Ganllwyd 13 Ebrill

Doedd rhagolygon y tywydd ddim yn edrych yn dda am y diwrnod, ond beth bynnag roedd unarddeg wedi dod i faes parcio'r Ganllwyd erbyn hanner awr wedi naw. Roedd yn haul ac awyr las ac yn edrych yn addawol ar y cychwyn. Taith hir i fyny o’r Ganllwyd wrth ochr yr afon Camlan heibio Hafod y Brenin a chychwyn i'r bwlch wrth ben Llyn y Bi, a dyma'r glaw yn cyrraedd. Cinio yn y glaw uwchben Llyn Hywel a chanu "Pen-blwydd hapus" i Idris (yn 76 mlwydd oed - go dda, wir). Yna ymlaen i ben y Llethr mewn eira gwlyb at ein pengliniau ar adegau. Cerdded yn y niwl a’r glaw dros Grib y Rhiw a minnau’n trio esbonio fod yr olygfa yn ardderchog ar ddiwrnod braf! I lawr dros grib y Diffwys ac yn ôl i'r Ganllwyd erbyn tua 5 o’r gloch. Pawb yn falch - y daith yn bellach na feddyliais, wedi mesur mewn milltiroedd "nautical", mae’n rhaid.

Adroddiad gan Rheinallt

Lluniau gan Haf ar Flickr