Penmachno a Chwm Eidda, 13 Tachwedd 2013
Efallai mai'r cyfuniad o addewid o dywydd sych a safle hwylus Penmachno yng nghanol Gogledd Cymru a ddenodd 28 o aelodau'r clwb i'r pentref gyda'r haul yn gwenu i'w croesawu. Ymunwyd â hwy gan bump o drigolion lleol i wneud cyfanswm o 33! Gadawyd y pentref i gyfeiriad gogledd-ddwyreiniol gan godi'n raddol heibio i nifer o fythynod a murddunod tuag at dyddyn Carreg-yr-ast a hen furddun Ffridd Wen lle cafwyd paned gynta'r dydd a chyfle i glywed ambell hanesyn am yr ardal. Yna ymlaen i fyny'r gefnen at y Garreg Adnod, lle bu hen lanc o grydd o dyddyn yr Wylfa gerllaw yn naddu rhannau o adnodau ac ymadroddion crefyddol ac yntau dan ddylanwad diwygiad 1904-05 - a'r creadur yn cael ei ddisgrifio yn y cyfrifiad fel cobbler and lunatic! Ar i lawr oedd hi wedyn i Gwm Eidda, gan fwynhau golygfeydd o Hiraethog ac Uwchaled cyn belled â'r Arenig, gyda Bryniau Clwyd yn sbecian arnom yn y pellter, a chyrraedd y ffordd rhwng ffermydd Tai'n-y-maes a Thŷ Ucha a saib am ginio. Cerdded wedyn i fyny'r Cwm cyn belled â Phont Blaen Eidda gan nodi bod pob un o ffermydd a thyddynod y cwm tawel hwn, fel gweddill ardal Ysbyty Ifan, yn perthyn i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (a Stad y Penrhyn cyn hynny) ac yn cael gosod yn gartrefi i deuluoedd lleol. O'r bont, troi ein trwynau tua Phenmachno a dilyn hen ffordd y porthmyn dros Llech a chyfle, er gwaethaf y cymylau isel oedd yn brysur grynhoi, i weld y Manod, Moelwyn Mawr, Moel Siabod (sy'n cuddio'r Wyddfa), Tryfan, a chadwyn y Carneddau o Ben yr Ole Wen i Dal-y-fan a chyrraedd yn ôl at y ceir tua'r tri fel roedd yn dechrau glawio. Gan nad oes na chaffi na thafarn o fewn pedair milltir, trefnwyd bod paned â chacen ar gael yn Eglwys Sant Tudclud - ac mae Cyfeillion yr Eglwys yn ddiolchgar dros ben am y £98 a dderbyniwyd trwy gyfraniadau a gwerthiant cardiau ac ati.
Yn groes i'r bardd o'r bymthegfed ganrif, Lewis Daron, a ddatganodd mewn cywydd i Maredudd ap Ifan a oedd yn dad i saith ar hugain (eu) Henwi oll hyn ni allaf, mi roddaf i gynnig ar restru pawb oedd ar y daith:- Clive, Alun a Rhiannon o Gaernarfon; Maldwyn, Carol a Liz o Ddyffryn Nantlle; Gwen Aaron, Gareth Tilsley, Margaret; Haf a John W. o Borthmadog; Anet, Rhian, Linda a Gwyn o Lŷn; Paul o Fae Penrhyn, Dafydd o Ddinbych, Gwilym Jackson, Bert, John Parry Llanfair-pwll, Dewi Holland, Mary o Landdulas, Gwen Rhuthun; Eifion, Iona a Liz o gyffiniau Llanrwst a Jane, Dilys, Nia, Liz, Joyce, Angharad a minnau o Benmachno - a diolch i Ann P. Williams am osod y byrddau a berwi'r tecell yn barod ar ein cyfer!
Adroddiad Eryl Owain
Lluniau gan Haf ar Flickr