Bylchau'r Wyddfa 14 Medi
Un ar bymtheg a fentrodd i Ben y Pas ar fore braf – Charli, Sioned, Clive a Rhiannon o Gaernarfon, Morfudd, Cemlyn, Sian Shakespear, Richard o Ruthun, 3 o ffyddloniaid Penmachno, Gareth a Ros, a Iolyn a'i ferch Meleri, a minnau – y maes parcio'n orlawn am 8.15. Y rhan fwyaf o'r criw wedi parcio ym Mhen y Gwrhyd a cherdded i fyny, eraill yn dod ar y Sherpa o Lanberis.
Cychwyn ar hyd y Pyg i'n bwlch cyntaf – Bwlch y Moch – gan sylwi a thrafod y mynegfaen newydd ar y bwlch a'r llall sy'n dangos y ffordd at y Grib Goch chydig lathenni uwchlaw. Dilyn y llwybr hwnnw ond gwyro i'r dde cyn gwaelod y grib a dilyn llwybr yr 'high level' (enw Cymraeg?) uwchben Cwm Beudy Mawr tuag at y grib ogleddol – sawl un o'r criw heb ei wneud o'r blaen ac wedi synnu pa mor agored oedd! Degau ar ddegau o bobol yn anelu am y grib uwch ein pennau.
Rowndio'r grib i mewn i Gwm Glas Uchaf – manlaw niwlog ar brydiau – a dilyn godre'r Grib Goch o dan Bwlch Coch a Chrib y Ddysgl gan gadw uwchben Llyn Glas a heibio gwaelod trwyn Clogwyn y Person i gael ein paned gyntaf uwchlaw Llyn Bach … Iolyn wedi cael ordors i dynnu lluniau'r man lynnoedd sydd o gwmpas Yr Wyddfa.
Igamogamu i fyny'r llethr uwchben Cyrn Las gan ddod allan ar yr ysgwydd uwchben Clogwyn Coch – cannoedd ar eu ffordd i fyny o Lanberis (i wrando ar Mike Peters?) – Sioned yn ein gadael gan fynd lawr i Lanberis. Ymlaen i lawr gan groesi'r rheilffordd a dilyn nant fechan i lawr i Gwm Du'r Arddu – 5 o rai mentrus yn cael ei denu i sgramblo teras dwyreiniol y Clogwyn Du, y gweddill ohonom yn dilyn y marian ochr arall y llyn a chael ail baned wrth Faen Du'r Arddu.
Tywydd wedi poethi erbyn hyn – ymlaen at ein hail fwlch, Bwlch Cwm Brwynog, trwyddo ac i lawr heibio Llyn Ffynnon-y-gwas gan ddisgwyl gweld y sgramblwyr yn dod lawr i'n cyfarfod. Dod ar draws criw Cwn Achub Mynydd yn ymarfer ar lawr Cwm Clogwyn – sylweddoli'n hwyrach fod yr holl fwytha gafodd y ci wedi drysu'r creadur. Y sgramblwyr yn dod i'r golwg – wedi osgoi'r Teras – rhy wlyb a llithrig. Dilyn yr afon i fyny at Lyn Coch a chael paned a phwyllgor hir cyn penderfynnu dilyn y llethr serth i fyny at fwlch? arall, Bwlch Main yn hytrach na rowndio at Fwlch Cwm Llan.
Dilyn y grib i fyny at fynegfaen y Watkin o dan y copa – colli 4 arall yma, Clive a Rhiannon a Iolyn a Meleri gan ei bod yn hwyrhau – ac i lawr y Watkin at Fwlch y Saethau a phenderfynnu mynd dros y Lliwedd yn hytrach na mynd lawr y Gribin. Heibio bwlch arall – Bwlch y Ciliau – ac i fyny'r Lliwedd, paned olaf, a dilyn gweddill y bedol at Llyn Llydaw a'r Llwybr Mwynwyr yn ôl – roedd hi wedi troi'r 7 erbyn i ni gyrraedd Pen y Pas.
Diwrnod da, hir a blinedig – diolch i bawb am eu cwmni.
Hon ydi fy hoff daith i ar Yr Wyddfa ac fe'i 'darganfyddais' wedi darllen amdani mewn llyfr gan Showell Styles, The Mountains of Snowdonia, Gollancz, 1973 … fe ddilynwn ei daith ef y tro nesaf! Jim Perrin yntau wedi ei ysbrydoli ganddi ac yn son amdani ym mhennod gyntaf ei lyfr am Yr Wyddfa, Snowdon, Gomer, 2012.
Linc i fanylion taith Showell ac erthygl gan Perrin yma …
http://maldwynperis.blogspot.co.uk/2013/09/a-girdle-of-snowdon.html
… hefyd, hanes Showell yn treulio pythefnos yn gwneud y 14 copa!
http://maldwynperis.blogspot.co.uk/2013/09/y-pedwar-copa-ar-ddeg-mewn-bythefnos.html
Adroddiad gan Maldwyn
Lluniau gan Iolyn a Maldwyn ar FLIKR