HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Tre'r Ceiri, Yr Eifl a Llwybr yr Arfordir 15 Mai

Roedd y 27 ohonom oedd yn barod i gychwyn yn Pistyll yn fwy na llond y bws a doeth oedd cadw golwg ar John Port rhag ofn iddo ddiflannu’r ffordd arall yn wyneb y fath dyrfa.  Roedd Iona yn aros amdanom yn Llithfaen ac erbyn i Gwenan ymuno â ni hefyd roeddem yn naw ar hugain o griw.  O Lithfaen mi ddilynon Lwybr Gwyn Plas am Dre’r Ceiri, mewn gwynt main iawn o ystyried ei bod yn fis Mai.  I mewn i’r gaer drwy’r porth gorllewinol a sylwi ar olion y ‘tai’ wrth ddringo tuag at y garnedd ar y copa.  Panad sydyn cyn gadael drwy’r porth gogleddol am y bwlch a phrif gopa’r Eifl.  Doedd y golygfeydd ddim ar eu gorau gan fod  cwmwl yn chwarae mig efo ni ond mi wellodd pethau wrth ddilyn y llwybr i lawr am ben lôn Nant Gwrtheyrn, lle cawsom ginio yng nghysgod y coed.  Er bod Caffi Meinir yn agorad roedd y dyrfa yn fwy nag y medren nhw ymdopi â nhw, a dim ond y rhai cyntaf i gyrraedd gafodd banad.  Mi wellodd y tywydd wrth ddilyn llwybr yr arfordir tua Charreg y Llam, ac erbyn i ni weld to Eglwys Pistyll yn y pellter roedd yr haul wedi ymddangos a thraethau Nefyn a Phorthdinllaen yn y pellter yn edrych yn braf iawn.  Diolch i bawb am eu cwmni.

Adroddiad gan Anet

Lluniau gan Gwilym Jackson a Haf ar Flickr