HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Tal-y-Fan 17 Awst


Erbyn hyn mae taith mis Awst wedi'i seilio o amgylch defnydd o gludiant cyhoeddus a therfynnu mewn tafarn. Eleni roedd newyddion y tywydd wedi addo tywydd braf y diwrnod cynt a'r diwrnod wedyn, gyda gwyntoedd cryfion a glaw mawr ar ddiwrnod y daith. Dyna paham efallai fod hanner y sawl a oedd wedi cysylltu ymlaen llaw wedi tynnu eu henwau yn ol !

Fodd bynnag ymunodd 5 aelod y bws cyhoeddus o Gonwy i bentref Ro-wen, gyda dim ond un yn orfod talu. Wrth gerdded trwy bentref dlws Ro-wen gwelwn llechen er cof y ddiweddar Huw T Edwards, undebwr a Chymro o fri. Hefyd ymwelwn a Chapel y pentref, gan gweld enw aelod o'r Clwb ar y Rhestr Trefnu Blodau.

Wedyn ymlaen ar y ffordd cyhoeddus ac heibio'r Hostel Ieuenctid. Ar y ffwrdd i Ffwlch y Ddeufaen mae'r tair rhes o bylonau dosbarthu trydan yn ein atgoffa o'r gwrthdaro rhwng ancanion parciau cenedlaeth ac anghenion ynni ddoe ac heddiw. Wedyn aethom o'r Bwlch y rhan pwysig wrth ddilyn y wal plwyf i gopa Tal-y-fan, sydd wedi tyfu a rwan i dros 2,000 troedfedd. Llongyfarchiadau !

Hyd yma roedd y tywydd mawr wedi cadw draw. Ond wrth i ni ymuno a Llwybyr Arfordir Cymru bu rhaid ymdopi a 45 munud o law drwm. Wedyn trwy tir Pensychnant a croesi'r lon bach rhwng Capelulo a Chonwy. Mae'r llwybr y dilyn gwaelod Mynydd y Dref ac wedyn strydoedd tref Conwy. O'r ddiwedd roedd pen y daith mewn golwg - sef tafarn "art nouveau" Yr Albion. Ar ol pendroni dros y ddewis eang iawn o gwrw casgen go iawn roedd cyfle ymlachio dros beint cyn gwasgaru a theithio adra !

Beth am y flwyddyn nesaf ? Mae 'na son am daith tren ym Meirionnydd !

Adroddiad Clive James