HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Glyderau a Tryfan 18 Mai

Daeth 4 ohonom (Nathan,Huw Myrddin, Heini o Lanelli - ar ei daith gyntaf hefo’r clwb - a minnau) i’r maes parcio ger Llyn Ogwen ar fore Sadwrn cymylog gyda rhagolygon y tywydd am y diwrnod ddim yn rhy ffafriol. Yn amlwg roedd yna nifer o aelodau wedi heidio i lawr i fynyddoedd y Preseli i chwilio am yr haul!

Cerdded heibio Llyn Bochlwyd cyn dringo'r Gribin i Fwlch y Ddwy Glyder. Ymlaen wedyn i Glyder Fawr cyn troi yn ôl am Glyder Fach. Y gwynt yn oer a chryf ar y copaon. Cael paned yng nghysgod y creigiau cyn dringo'r Glyder Fach. Cyfle i dynnu lluniau ar Garreg y Gwyliwr er gwaethaf y gwynt hegar ac wedyn i lawr y llwybr drwy’r sgri diflas i Fwlch Tryfan. Y cymylau a’r niwl wedi dod i lawr o’n cwmpas erbyn hyn. I fyny Tryfan wedyn a chael cinio yng nghysgod Adda ac Efa a chyrraedd yn ôl i’r ceir erbyn 3.30pm. Wrth ryw lwc wedi llwyddo i osgoi unrhyw law trwy’r dydd. Llawer o ddiolch i Nathan, un o aelodau iau'r clwb am ein harwain mewn ffordd hyderus a di-lol yn ystod y diwrnod

Adroddiad a lluniau gan Iolo Roberts. Lluniau ar Flickr