HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Llwybrau Dyffryn Nantlle 18 Medi



Yng nghanol wsnos lawog roeddan yn ffodus ar y dydd Mercher na welsom yr un defnyn.  Cychwynnodd 13 ohonom o Dalysarn - Clive, Rhian Llangybi, Rhian Rhosfawr, John A, Rhiannon H J, Haf, Iolyn, Carys P, Gwenan a Gwil, John W, Carol (ar ei thaith dydd Mercher gyntaf) a finna. 

Ymlwybro ar hyd llwybrau’r chwarelwyr heibio chwarel Twll Llwyd gan sylwi o bell ar Fryn Llidiart, cartref Mathonwy Hughes, ac o agos ar Glan Gors, cartref R Alun Roberts (Athro Llysieueg Amaethyddol cyntaf Coleg y Brifysgol ym Mangor).  Yna ymlaen tua Nebo, gan ddotio ar fân dyddynnod ardal Rhoslas, trwy Lanllyfni a gyda godre Caer Engan (hen gaer o Oes yr Haearn).  Roeddan yng Nghaffi Pant Du am 12.45 lle’r oedd Iola a Glesni wedi gosod y bwrdd a pharatoi cinio ar ein cyfer, a lle’r ymunodd Maldwyn â ni (gan nad oedd Carol gartra i ofalu amdano!).  Wedi awran o orffwys a mwynhau’r croeso ymlaen â ni heibio Clogwyn Melyn a thua’r Cilgwyn ar hyd hen lwybrau rhwng waliau cerrig.  Gorffen y daith tros olion y Gloddfa Glai, y chwarel a ddaeth rhwng R Williams Parry a’r ‘ddôl ddihalog’, Dôl Pebin. 

Taith o rhyw naw milltir go dda yn ôl yr app ar ffôn clyfar Gwenan. 

Diolch i bawb am eu cwmni.

Adroddiad gan Anet

Lluniau gan Haf ar FLIKR