HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ynys Enlli 18-19 Mehefin

Braf oedd cael croesawu aelodau’r Clwb i Enlli ar y dydd Mawrth a’r dydd Mercher yn ystod yr wythnos yr oedd rhai ohonom yn aros ar yr ynys – cyfanswm o 29 o bobl draw am y dydd rhwng y ddau ddiwrnod! 

Cafwyd deuddydd hynod o braf a llwyddodd y rhan fwyaf i alw heibio libart y goleudy, gwylio’r morloi llwyd, dilyn y lôn tua’r gogledd ar hyd troed y mynydd, galw heibio Tŷ Pellaf a’r odyn galch ac i’r ysgol i weld yr arddangosfa, galw heibio siop Cristin, yr Wylfa Adar, yna Plas Bach ac Afal Enlli (a gweld - a defnyddio - y toiled anaerobig newydd i ymwelwyr!), Carreg Bach (y bwthyn bach perffaith), Capel Enlli, a’r arddangosfa o ffotograffau yn y buarth gyferbyn â Thŵr yr Abaty.  Ar ôl tamaid o ginio, dewisodd y rhan fwyaf gerdded heibio Ffynnon Barfau a dros Fynydd Enlli cyn anelu tua’r Cafn i ddal y cwch am adref, wrth i eraill grwydro’n fwy hamddenol yn ôl ar hyd y lôn neu’r arfordir.

Diolch i bawb am eu cwmni, i Gwyn Chwilog am hel y pres a thalu’r cychwr, i Colin am gludo pawb yn ddiogel dros y Swnt, ac am y cyfraniadau tuag at yr ynys (£40 i gyd).

Adroddiad Haf

Lluniau gan Haf – Blas ar yr wythnos ar Enlli, Mehefin 2013 ar Flickr