HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moel y Dyniewyd a Blaen Nantmor 20 Chwefror



Mi roedd 'na bedwar ar ddeg ohonom yn cychwyn o Fethania yn Nant Gwynant ar fore digon tawel ond di-haul.  Mynd yn gyntaf heibio i ffermdy Llyndu, ac yna ar y llwybr ar yr ochr bela i Lyn Dinas i'r ffordd fawr.  Ar ôl cyrraedd pen draw’r llyn roedd y gwaith caled yn dechrau a bu rhaid dringo'r llwybr igam-ogam ar y llethrau gyferbyn â'r Aran.   Tua mil o droedfeddi i fyny daethom at hen waith copr Mynydd Sygun a chymerwyd golwg ar olion y gwaith.  Ymlaen wedyn am Foel Dyniewyd er bod rhai’n holi am amser cinio!

Mae sefyll ar ben Moel Dyniewyd yn lle rhagorol am olwg dros wastadeddau traeth y Glaslyn a hefyd yn ôl at Yr Wyddfa, ond erbyn hyn mi roedd y cymylau dipyn is a chopa'r Wyddfa a Lliwedd ar goll yn y niwl.  Gyrrodd gwynt main y copa ni ymlaen i lawr i gyfeiriad Blaen Nantmor, ac yn fuan iawn cafwyd man digon cysgodol i aros am ginio.  Ymlaen wedyn i lawr i'r dyffryn a throi i'r chwith ar y llwybr cyhoeddus sy’n arwain o Garneddi i Blaen Nantmor ac ar hyd hwnnw heibio Buarthau i gyrraedd y ffordd wrth Chwarel Gerrynt.  Bu rhaid dilyn y ffordd am dipyn gan ddisgyn i lawr yn ôl i gyfeiriad Nant Gwynant.  Ond, cyn cyrraedd y ffordd fawr, troi i’r dde, a chymryd golwg ar olion y felin goed ger Hafod Tan-y-graig.  Gorffen wedyn gan groesi'r afon a dod i ben y daith heibio canolfan awyr agored Plas Gwynant a phanad yn y caffi ym Methania cyn troi am adref.

Adroddiad Dewi Hudson Jones

Lluniau gan Haf ar Flickr