Rhinog Fawr a Rhinog Fach 20 Gorffennaf
Wedi gwneud reci o’r daith mewn gwres llethol ar y dydd Iau blaenorol a gyda rhagolygon am ddiwrnod poeth arall, roeddwn wrth deithio lawr i Lanbedr ar y bore Sadwrn yn meddwl am ffyrdd y gellid cwtogi ‘r daith pe byddai’r haul a’r gwres yn mynd yn drech na ni.
Tri aelod ymunodd â mi yn Llanbedr sef Iolyn, Eirlys ac Alun (Caergybi). Iolyn yn ein dreifio i fyny Cwm Nantcol i Faes y Garnedd lle'r oedd y daith yn cychwyn, gydag Eirlys yn sôn am rai o’r teuluoedd oedd yn byw a gweithio yn y ffermydd ar y ffordd. Da oedd clywed fod cynifer o deuluoedd Cymraeg yn dal yn y cwm.
Wrth ddod allan o’r car ym Maes y Garnedd, digwyddodd y peth mwyaf rhyfeddol, roedd awel ysgafn ffres yn ein croesawu. Mynd heibio Nantcol cyn dechrau codi yn raddol a dilyn y llwybr i fyny i Rhinog Fawr gyda’r awel yn chwythu i’n hwynebau'r holl ffordd bron. Chwlio wedyn am ffordd Eirlysadwy i lawr o Rinog Fawr a oedd yn osgoi dod lawr y creigiau. Disgyn i Fwlch Drws Ardudwy lle cawsom ginio cyn mentro i fyny Rhinog Fach, eto gyda’r awel fel cwmni. Roedd eistedd ar gopa Rhinog Fach hefo’r gwynt yn chwythu i’n hwynebau yn fendigedig ar ôl yr holl wres roeddem wedi ei gael yn ystod y diwrnodiau cynt. Lawr wedyn o Rinog Fach i Lyn Hywel a bachu'r cyfle i olchi ein traed yn y llyn.
Ar y darn olaf o’r daith cerdded i gyfeiriad Llyn Cwmhosan ac ymuno â’r llwybr i lawr y cwm yn ôl i Faes y Garnedd. Roedd y cwm wrth i ni gerdded trwyddo wedi ei garpedu â blodau grug porffor llachar ac yn werth i’w weld. Cyrraedd yn ôl i’r car erbyn 5.15pm.
Taith ddifyr ar ddiwrnod braf ar rai o fynyddoedd mwyaf godidog Cymru gyda golygfeydd gwych a thawel – prin chwe pherson arall welsom trwy’r dydd!. Diolch i’m cyd-gerddwyr am eu cwmni ac i Iolyn ac Eirlys am eu parodrwydd i rannu eu gwybodaeth am lwybrau’r ardal a oedd o gymorth mawr i mi wrth arwain.
Adroddiad a Lluniau gan Iolo Roberts FLICKR