Llwybr Arfordir, Ardudwy 21 Awst
Diolch i'r criw bach ddaeth draw ar fore glawog ac eitha annifyr - yng nghanol mis Awst!
Gan nad oedd y tywydd yn addas felly i fynd i gerdded yng nghyffiniau Moel Ysgyfarnogod a Moel Penolau fel oeddan ni di meddwl, penderfynwyd mynd i lawr am Harlech a cherdded yn ôl tua'r gogledd (gan fod y glaw'n dod o'r de orllewin!), a dilyn rhan o Lwybr Arfordir Cymru.
Gadawyd y ceir ym maes parcio pwll nofio Harlech, yna ymunwyd â Llwybr yr Arfordir ar ôl cerdded drwy waelod tref Harlech, ac anelu am Forfa Harlech, fferm Glan y Môr, o gwmpas y trwyn heibio'r Warin, heibio Clogwyn Melyn a Bryn Gwyn, a chyrraedd Eglwys Llanfihangel-y-traethau erbyn amser cinio. Mi oedd pawb yn reit falch o weld porth yr eglwys - er mwyn cael cysgod i fwyta'n brechdanau! Diolch i Cheryl am roi cynnig ar dynnu lluniau ar ei ffôn bach (isod) er bod y glaw'n dal i bistyllio. O'r Eglwys, anelu am Yr Ynys a dilyn y clawdd llanw heibio fferm Draenogan. Yma, gan fod y llanw'n ffafriol, penderfynwyd croesi i Ynys Gifftan, a hwyl a gafwyd yn osgoi'r pyllau dŵr cyn croesi traeth yr aber ei hun a chyrraedd yr ynys. Cyfle yma i weld yr hen ffermdy truenus yr olwg erbyn hyn wedi i fandaliaid falu'r ffenestri, cyn cerdded o amgylch yr ynys (i olwg Portmeirion tua'r gorllewin) a chroesi'n ôl i'r glastraeth. Y tywydd wedi gwella rhywfaint erbyn i ni gyrraedd yn ôl i Dalsarnau a diwedd y daith. Yr ail ynys eleni i ambell un ar deithiau dydd Mercher!!
Diolch i Anet, Gwyn, Cheryl, John Arthur, a Rhian am eu cwmni yn y glaw.
[Ia, twyllo fu raid efo'r lluniau, mae gen i ofn. Yndy, mae hi'n gallu bod mor braf â hyn ar Lwybr yr Arfordir ac Ynys Gifftan! Cafodd rai aelodau o Glwb Dringo Porthmadog gyfle i groesi i'r ynys yng nghwmni Arwyn yn gynharach eleni.]
Adroddiad a lluniau gan Haf a Cheryl ar FLIKR